Mae dyn 20 oed wedi ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dynes ym Mhort Talbot ym mis Ebrill y llynedd.

Galwyd yr heddlu i dŷ yn ardal Taibach ym Mhort Talbot yn ystod oriau mân y bore dydd Gwener, 24 Ebrill 2015.

Cafodd Kellie Marie Gillard, 25 oed, ei chludo i ysbyty Treforys, ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo James Tobin, 20 oed, o ddynladdiad.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Abertawe ar 1 Mawrth 2016.