Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod ad-dalu Cyngor Caerffili ar ôl i fwy na £1 miliwn o arian y trethdalwyr gael ei wario ar gyflogau staff a oedd wedi’u gwahardd.

Fe ddywedodd Wayne David, AS Llafur Caerffili, ei fod yn “siomedig iawn,” wedi iddo alw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ad-dalu’r Cyngor yn ystod dadl yn Neuadd San Steffan heddiw.

Mae’r achos yn cyfeirio at wahardd tri o uwch-swyddogion y cyngor wedi iddyn nhw gael eu cyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Cafodd y prif weithredwr Anthony O’Sullivan, ei ddirprwy Nigel Barnett a phennaeth y gwasanaethau cyfreithiol Daniel Perkins eu harestio yn 2013.

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi dweud eu bod wedi gweithredu’n anghyfreithlon drwy roi codiad cyflog sylweddol i Anthony O’Sullivan ac uwch reolwyr y cyngor.

Ond, penderfynwyd peidio parhau â’r achos y llynedd ar ôl blwyddyn a hanner ers iddyn nhw gael eu harestio.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedden nhw’n parhau i dderbyn cyflog llawn.  Roedd Wayne David wedi dadlau nad Cyngor Caerffili na’r trethdalwyr oedd ar fai am y broses gyfreithiol hir, ac oherwydd hynny ni ddylen nhw gael eu “cosbi”.

‘Siomedig iawn’

Esboniodd Wayne David fod gan y Gweinidog Cyfiawnder, Shailesh Vara, gydymdeimlad tuag at bryderon pobol Caerffili ond na fedrai gynnig y byddai’r Llywodraeth yn ad-dalu costau Cyngor Caerffili. Ychwanegodd bod yr achos wedi “cael ei gwblhau o fewn yr amser arferol ar gyfer achosion cymhleth o’r natur yma.”

Yn ôl Wayne David, “yn yr achos arbennig hwn, fe ddylai’r Llywodraeth gydnabod y dylai’r cyngor gael eu had-dalu am gostau’r cyflogau.”

“Mae trethdalwyr Cyngor Bwrdeistref Caerffili wedi gorfod talu mwy na £1 miliwn mewn cyflogau i aelodau o staff sydd wedi eu gwahardd.

“Rwy’n siomedig iawn. Roedd digon o eiriau calonogol gan y Gweinidog, ond ni gynigiodd unrhyw obaith am gynorthwyo ariannol i Gyngor Caerffili.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili bod y tri swyddog yn dal i fod wedi’u gwahardd o’u swyddi a bod prosesau mewnol wedi dechrau. Ychwanegodd na fyddai’n addas i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.