Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio heddiw ar fesur newydd sy’n anelu at wella’r ffordd mae Cymru’n mynd i’r afael a materion newid hinsawdd.

Os bydd y Bil Amgylchedd, sy’n cynnwys cytundebau ar reoli tir a chynlluniau i osod targedau ar leihau nwyon carbon Cymru, yn cael ei phasio heddiw, bydd yn cael ei wneud yn gyfraith.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y bil yn golygu bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli mewn ffordd fwy cynaliadwy, tra’n sefydlu’r “ddeddfwriaeth angenrheidiol” i daclo newid hinsawdd, a fydd yn “ein helpu i fodloni gofynion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol”.

Y cyntaf ym Mhrydain

 

Os caiff y bil ei basio, Cymru fydd y cyntaf o wledydd Prydain i sefydlu cyfraith dros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a dechrau neilltuo arian ar gyfer lleihau allyriadau carbon.

Mae’r mesur hefyd yn cyflwyno trefniadau newydd dros ailgylchu, casglu gwastraff i “wella ansawdd gwastraff wedi’i ailgylchu, arbed costau i fusnesau, creu swyddi a lleihau allyriadau tŷ gwydr.”

Er hyn, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn feirniadol o’r bil gan ddweud nad yw’n ddigon “uchelgeisiol”.

Yn y mesur, mae’n nodi targed i leihau allyriadau carbon Cymru o  80% o leiaf  erbyn 2050, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am weld hyn yn lleihau 100%.

‘Angen bod yn fwy uchelgeisiol’

 

Yn ôl William Powell, AC a llefarydd y blaid dros faterion amgylcheddol, mae’r mesur newydd yn golygu y bydd cynlluniau Cymru i daclo newid hinsawdd yn “unol â gweddill y DU” ond bod angen “anelu’n uwch na hynny.”

 

“Mae’n hollol annerbyniol bod allyriadau tŷ gwydr yng Nghymru wedi codi 10% rhwng 2012 a 2013, a oedd yn sylweddol uwch na chenhedloedd eraill y DU,” meddai.

 

“Ni ddylai taclo newid hinsawdd gael ei weld fel rhwymedigaeth, ond fel cyfle i adeiladu economi cryfach a mwy gwyrdd yng Nghymru.

 

“Gyda’r uchelgais cywir, gallwn arwain y ffordd ym maes technolegau cynaliadwy”.

Newid targed

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi “cynnwys pwerau rheoliadol yn y Bil sy’n rhoi hyblygrwydd i ni newid ein targedau os bydd angen ac ar argymhellion cyrff ymgynghorol.”

Nododd y llefarydd ar ran y Llywodraeth mai “o leiaf 80%” yw’r targed ac felly gallai gynyddu yn y dyfodol.