Yr actores Naomi Watts Llun: Eva Rinaldi
Mae un o sêr ffilmiau Hollywood wedi dweud ei bod hi ‘wrth ei bodd’ ar ôl cael ei phenodi’n llywydd newydd clwb pêl-droed o Ynys Môn.
Pan benderfynodd Syr George Meyrick, a oedd yn byw ar stad leol Bodorgan, gamu lawr o’i rôl gyda CPD Glantraeth ar ôl ugain mlynedd roedd yn rhaid i’r clwb ddod o hyd i lywydd newydd.
Dyma felly gysylltu â Naomi Watts, yr actores 47 oed sydd fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y ffilm Mulholland Drive a fersiwn 2005 o King Kong.
Ac fe gafodd y clwb eu synnu ar ôl i’r actores gytuno, gan yrru neges yn ôl at swyddogion Glantraeth i ddweud ei bod hi’n ‘gyffrous iawn’ i gymryd y rôl.
Magu yng Nghymru
Doedd hi ddim yn gais cwbl ddi-sail gan y clwb o Fôn sydd yn chwarae yng nghynghrair y Welsh Alliance, fodd bynnag.
Mae gan Naomi Watts gysylltiadau â’r ardal ar ôl byw gyda’i nain a’i thaid yn Llangristiolus, yn ogystal ag yn Llanfairpwll, am gyfnodau yn ystod ei phlentyndod.
Dysgodd y ferch, gafodd ei geni yng Nghaint, i siarad Cymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn i’w theulu symud i Awstralia pan oedd hi’n 14 oed.
Llynedd fe ddarllenodd hi enw’r pentref hiraf yn Ewrop yn fyw ar un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd yr UDA, gan synnu’r gwylwyr.
“Roedden ni eisiau rhywun oedd â chysylltiadau lleol gyda’r ardal, ac mae’n help os maen nhw’n enw mawr,” esboniodd ysgrifennydd CPD Glantraeth, Stan Strickland, wrth golwg360.
“Mae’n denu sylw, sydd ddim yn ddrwg o beth. Tipyn o hwyl ydi o ar ddiwedd y dydd!”
Dyfalbarhad
Fe esboniodd Stan Strickland mai rôl seremonïol oedd hi ar y cyfan, ond y byddai ei henw hi’n cael ei gynnwys ar lythyrau a rhaglenni’r clwb ac y byddai hi’n derbyn diweddariadau bob blwyddyn ar sut roedd y tîm yn perfformio.
“Nes i sgwennu at ei rheolwr hi a daeth dim byd ohoni, fe nes i gysylltu jyst i ddweud byddai wedi bod yn dda derbyn ymateb naill ffordd neu’r llall,” meddai, gan ddangos gwerth dyfalbarhad.
“Fe ymddiheurodd e a gofyn i mi anfon y llythyr eto, a dweud y byddai’n crybwyll y peth wrth Naomi.
“Bore ‘ma ges i e-bost yn dweud y byddai hi wrth ei bodd ac yn gyffrous iawn i fod yn llywydd!”
‘Allan o fy nyfnder!’
Mae ysgrifennydd CPD Glantraeth bellach mewn cyswllt â Robin Baum, swyddog cyhoeddusrwydd Naomi Watts, a dyna pryd sylweddolodd cymaint o beth oedd cael yr actores yn rhan o’r clwb.
“Nes i chwilio amdani ar y we, ac roedd rhestr o’r ugain swyddog cyhoeddusrwydd mwyaf pwerus yn Hollywood, ac roedd hi’n rhif tri,” meddai Stan Strickland.
“Mae ei chleientau’n cynnwys pobl fel Johnny Depp, Orlando Bloom, Ryan Gosling – dw i’n meddwl mod i allan o fy nyfnder!”