Iolo Cheung sydd yn dethol ambell ffaith ddifyr am hanes y tîm pêl-droed cenedlaethol ar ei phen-blwydd yn 140 oed …
Allai’r Gymdeithas Bêl-droed ddim bod wedi dewis ffordd well o ddathlu ei phen-blwydd yn 140 oed na pharatoi o’r diwedd ar gyfer trip i Bencampwriaethau Ewrop.
Wedi’r cwbl, er gwaethaf hanes hir y Gymdeithas – y trydydd hynaf yn y byd ar ôl Lloegr a’r Alban – prin iawn y maen nhw wedi gallu dathlu eu pen-blwyddi i gyd-fynd â llwyddiant ar y cae i’r tîm cenedlaethol.
Ta waeth, dyma gip felly ar rai o’r digwyddiadau, unigolion a ffeithiau nodedig o’r 140 mlynedd diwethaf – ac os ydych chi’n eu gwybod nhw i gyd eisoes, croeso i chi ddatgan hynny’n smyg a rhoi seren aur i’ch hunan.
1.Tad y Gymdeithas
Efallai nad yw Llewelyn Kenrick yn enw cyfarwydd i lawer ohonoch chi, ond iddo fo mae’r clod am gael y bêl yn rowlio, fel petai.
Mewn cyfarfod yn y Wynnstay Arms yn Wrecsam ar 2 Chwefror 1876 daeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i fodolaeth (er mai’r Cambrian Football Association gafodd hi ei galw ar y pryd).
Fe aethon nhw ati i wneud trefniadau ar gyfer gêm ryngwladol gyntaf y tîm yn ddiweddarach y mis hwnnw, colled o 4-0 i’r Albanwyr.
2. Yr hynaf oll
Billy Meredith
Mae record Billy Meredith o fod y chwaraewr hynaf erioed i chwarae dros Gymru yn dal i sefyll.
Roedd yr ymosodwr yn un o sêr ei ddydd, gan chwarae dros 680 o weithiau dros glybiau fel Manchester United ac ennill 48 cap dros Gymru mewn gyrfa barhaodd rhwng 1890 ac 1924.
Daeth yr olaf o’i gapiau rhyngwladol pan oedd yn 45 mlwydd a 229 diwrnod oed, ac fe fyddai wedi ennill sawl un arall petai ei glybiau wedi’i ryddhau’n fwy rheolaidd i’r tîm rhyngwladol (swnio’n gyfarwydd?!).
3. Pencampwyr Prydain
Cafodd Pencampwriaeth Prydain ei chwarae am 100 mlynedd rhwng 1883 ac 1984 rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon/Gogledd Iwerddon.
Dim ond 12 gwaith enillodd Cymru’r tlws (gan gynnwys pum tro ble cafodd ei rannu), gyda saith o’r rheiny yn dod yn ystod yr oes aur rhwng y ddau Ryfel Byd.
4. Y Cawr Addfwyn
John Charles
John Charles oedd un o sêr pêl-droed y byd yn ei ddydd, ac fe dorrodd y record ffi drosglwyddo pan symudodd o Leeds i Juventus am £65,000 yn 1957.
Roedd yn cael ei adnabod fel ‘Il Gigante Buono’, Y Cawr Addfwyn, a chafodd o erioed gerdyn melyn na choch yn ystod ei yrfa.
Fel ymosodwr yn ogystal ag amddiffynnwr o fri, fe sgoriodd 15 o goliau mewn 38 gêm dros Gymru yn ystod ei yrfa gan gynnwys un yng Nghwpan y Byd 1958.
5. Pele pwy?
Erbyn hyn mae Pele’n cael ei gydnabod gan lawer fel y pêl-droediwr gorau erioed – ond pan sgoriodd yn erbyn Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, ac yntau ond yn 17 oed, doedd gan neb syniad pwy oedd o.
Roedd Cymru wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ar ôl tair gêm gyfartal yn y grŵp a buddugoliaeth mewn gêm ail gyfle, a sêr fel John Charles, Ivor Allchurch, Jack Kelsey a Mel Charles yn y tîm.
Ond fe gafodd John Charles ei anafu cyn y gêm yn erbyn Brasil, a’r gred oedd y gallai Cymru fod wedi trechu’r tîm aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth petai eu prif seren nhw’n ffit.
6. Trwbl yn y Ninian
Yr agosaf ddaeth Cymru erioed at gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop oedd 1976 – 100 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas Bêl-droed.
Fe gollon nhw i Iwgoslafia dros ddau gymal yn rownd yr wyth olaf, ar ôl colli 2-0 yn Zagreb a chael gêm gyfartal 1-1 mewn gêm dymhestlog yng Nghaerdydd – bryd hynny doedd y twrnament terfynol ddim yn dechrau tan y pedwar olaf.
7. Boddi yn ymyl y lan
Mark Hughes, y rheolwr ddaeth mor agos at fynd a Chymru i Ewro 2004
Mae Cymru wedi boddi yn ymyl y lan sawl tro ers hynny wrth geisio cyrraedd twrnament rhyngwladol.
Cafodd eu gobeithion o gyrraedd Cwpanau Byd 1982 ac 1986 eu chwalu gan Wlad yr Ia a’r Alban, methodd Paul Bodin gic o’r smotyn allai fod wedi’u hanfon nhw i dwrnament 1994, a Rwsia dorrodd galonnau Cymru yng ngemau ail gyfle Ewro 2004.
Ond yr un sydd yn dal i weld rhai cefnogwyr yn poeri gwaed hyd heddiw i lawer ydi’r ornest yn Anfield yn 1977, pan lawiodd Joe Jordan o’r Alban y bêl a thwyllo’r dyfarnwr i feddwl mai Cymro oedd wedi troseddu.
Roedd y gêm yn ddi-sgôr ar y pryd a Chymru angen ennill, ond fe gollon nhw 2-0 ar ôl ildio’r gic o’r smotyn a cholli allan ar le yng Nghwpan y Byd 1978.
9. Y prif sgoriwr
Ian Rush
Prif sgoriwr Cymru o hyd ydi Ian Rush, cyn ymosodwr Lerpwl a Juventus a rwydodd 28 o weithiau mewn 73 gêm dros gyfnod o 15 mlynedd.
Fe sgoriodd unig gôl y gêm yn 1991 wrth i Gymru drechu’r Almaen, oedd newydd ennill Cwpan y Byd, mewn buddugoliaeth hanesyddol.
10. Y golwr o fri
Mae llawer yn meddwl mai cenhedlaeth Ian Rush oedd y tîm gorau erioed gan Gymru i beidio â chyrraedd twrnament rhyngwladol, ac mae’n hawdd gweld pam wrth edrych ar bwy oedd yn y gôl.
Cafodd Neville Southall yrfa hir gydag Everton yn yr 1980au a’r 1990au ac ar un pryd roedd yn cael ei ystyried gan rai fel golwr gorau’r byd. Mae ei record o 92 cap dros Gymru yn dal i sefyll hyd heddiw.
11. Y dewin o Fanceinion
Un allai’n sicr fod wedi torri record Southall oedd Ryan Giggs, a chwaraeodd 973 o weithiau mewn gyrfa barodd 23 o flynyddoedd.
Roedd yn seren yn nhîm Manchester United drwy gydol y 1990au a’r 2000au, ac mae’r cyn-asgellwr yn cael ei ystyried fel un o’r chwaraewyr gorau erioed i ddod o Gymru.
Ond fe allai fod wedi ennill llawer mwy na’r 64 cap a gafodd, ag yntau dan bwysau oddi wrth ei glwb i beidio â chwarae weithiau, ac fe chwaraeodd ei gêm gyfeillgar gyntaf dros Gymru yn 2000, naw mlynedd ers ei gap cyntaf.
12. Capiau di-ri
John Toshack
Roedd John Toshack, cyn-seren tîm Cymru’r 1970au, yn sicr yn hael gyda’i gapiau pan gafodd ei benodi’n rheolwr ar y tîm cenedlaethol yn 2004.
Cafodd dwsinau o chwaraewyr eu dewis yn nhimau Toshack yn ystod ei chwe blynedd wrth y llyw, sawl un yn haeddiannol, ambell un ddim o bosib.
Ond roedd yn barod iawn i ddangos ffydd mewn sêr ifanc – fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey – ac o’r 11 ddechreuodd y gêm yn erbyn Bosnia sicrhaodd le Cymru yn Ewro 2016, cafodd naw ohonynt eu capiau cyntaf gan ‘Tosh’.
13. Yr arweinydd
Cyn-reolwr Cymru Gary Speed
All neb gwestiynu ymroddiad Gary Speed i achos Cymru – mae’n ail yn unig i’r golwr Neville Southall o ran nifer ei gapiau ar ôl cynrychioli’r wlad 85 o weithiau.
Pan gamodd Toshack o’r neilltu fel rheolwr yn 2010, Speed ddaeth i’r adwy ac er mai dim ond am ddeg gêm y bu wrth y llyw, roedd y canlyniadau wedi bod yn ddigon i awgrymu y gallai Cymru gyrraedd Cwpan y Byd 2014.
Roedd ei hunanladdiad yn 2011 yn ddigwyddiad trasig yn hanes y tîm cenedlaethol a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac yn un gafodd effaith fawr ar bobl ar draws byd y bêl gron.
14. Galactico Cymru
Gareth Bale yn dathlu un o'r goliau sydd wedi mynd a Chymru i Ewro 2016 (llun: David Davies/PA)
Fel y Cymro cyntaf i chwarae dros Real Madrid, a’r chwaraewr dorrodd record byd i symud yno am £80m, Gareth Bale yw seren fyd-eang ddiweddaraf Cymru, ac o bosib y gorau ohonyn nhw i gyd.
Fe sgoriodd saith o 11 gôl Cymru (gan greu dwy arall) ar y ffordd i Ffrainc – dim ond Ian Rush oedd erioed wedi rhwydo cymaint mewn un ymgyrch ragbrofol o’r blaen.
Mae ganddo eisoes 19 gôl mewn 54 gêm dros ei wlad, felly ag yntau ond yn 26 mae’n bosib iawn fod record goliau a chapiau Cymru o fewn cyrraedd y gŵr o Gaerdydd.