Simon Church yn ymarfer gyda charfan Cymru llynedd (llun: CBDC)
Mae ymosodwr Cymru Simon Church wedi arwyddo ar fenthyg i Aberdeen am weddill y tymor.

Roedd y blaenwr wedi colli ei le yn nhîm MK Dons yn ddiweddar, ac fe allai symud i’r Alban olygu mwy o gemau rheolaidd iddo felly cyn Ewro 2016.

Cafodd Church ei enwi ym mhob carfan roedd yn ffit ar ei gyfer yn ystod yr ymgyrch ragbrofol i gyrraedd y twrnament yn Ffrainc, er mai fel eilydd gafodd ei ddefnyddio ar y cyfan.

Bydd yn gobeithio felly y gall sgorio’n rheolaidd yn yr Alban rhwng nawr a diwedd y tymor er mwyn sicrhau ei le yng ngharfan derfynol Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.

Fe allai wneud ei ymddangosiad cyntaf dros y clwb yn erbyn Celtic nos fory mewn gornest rhwng y ddau dîm sydd ar frig y gynghrair.

Mewn llai na phythefnos fe fydd Aberdeen hefyd yn teithio i Inverness, gan olygu y gallai Church fynd benben â golwr Cymru Owain Fôn Williams.

Dim ond tair gôl yr oedd Church wedi sgorio mewn 23 gêm i MK Dons ers iddo arwyddo o Charlton yn ystod haf 2015.