Rhoys Wiggins yn chwarae i Sheffield Wednesday (llun: Barrington Coombs/PA)
Mae pedwar cefnwr chwith o Gymru bellach yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair ar ôl i Bournemouth arwyddo Rhoys Wiggins o Sheffield Wednesday ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo.

Dyma fydd pedwerydd cyfnod Wiggins gyda’r clwb o dde Lloegr, ar ôl bod yno ddwywaith ar fenthyg yn gynharach yn ei yrfa cyn arwyddo i’r tîm yn barhaol yn 2010.

Fe adawodd yn 2011 am Charlton, cyn symud i Sheffield Wednesday llynedd, ac mae’r chwaraewr 28 oed nawr wedi arwyddo cytundeb o ddwy flynedd a hanner â Bournemouth.

Mae’n golygu y gallai gael ei gyfle cyntaf i chwarae pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair, a hynny er nad yw wedi ennill cap dros Gymru eto.

Cystadleuaeth

Fe enillodd ddeg cap dros dîm dan-21 Cymru rhwng 2006 a 2008 ac mae wedi cael ei gynnwys mewn ambell garfan tîm cyntaf Cymru ers hynny, y tro diwethaf yn 2014.

Ond mae gan Gymru dipyn o gystadleuaeth yn safle’r cefnwr chwith gyda Ben Davies, Neil Taylor a Paul Dummett i gyd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair, a Declan John a Morgan Fox o’r Bencampwriaeth hefyd wedi cael eu cynnwys yn ddiweddar.

Pan adawodd Wiggins Bournemouth yn 2011 roedden nhw dal yng Nghynghrair Un, ac felly mae’n dipyn o newid byd iddo ddychwelyd i’r clwb nawr eu bod yn y brif adran.

“Mae’n anhygoel gweld ble mae’r clwb nawr o’i gymharu â lle roedden nhw bryd hynny,” meddai Wiggins.

“Mae cael ei gweld hi yn yr Uwch Gynghrair a bod yn rhan o hynny yn anhygoel.”