Leroy Fer yn chwarae i QPR (llun: Adam Davy/PA)
Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo Leroy Fer ar fenthyg o QPR tan ddiwedd y tymor ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo.
Bydd y chwaraewr 26 oed, sydd wedi ennill 11 cap dros yr Iseldiroedd, yn cryfhau canol cae yr Elyrch wrth iddyn nhw frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.
Ond fe fydd Abertawe’n gobeithio na fydd hanes yn ailadrodd ei hun, gan bod Fer wedi disgyn o’r Uwch Gynghrair gyda’i glwb yn y ddau dymor diwethaf, yn gyntaf gyda Norwich ac yna gyda QPR.
Fer yw’r ail chwaraewr i gael ei arwyddo gan y rheolwr newydd Francesco Guidolin, a hynny ar ôl i’r ymosodwr Alberto Paloschi gyrraedd o Chievo am £8m.
Fe aeth Eder allan drwy’r drws arall, gyda’r ymosodwr o Bortiwgal a arwyddodd i Abertawe am £5m yn yr haf yn gadael ar fenthyg i Lille am weddill y tymor.