A fydd James Chester yn aros yn West Brom, neu a fydd Abertawe'n llwyddo i'w ddenu? (llun: CBDC)
Y newyddion diweddaraf am glybiau a chwaraewyr Cymru ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo.

22.02: Abertawe’n cadarnhau trosglwyddiad Leroy Fer – dyna ni am y noson iddyn nhw felly mae’n debyg.

21.21: Cymro arall ar fin symud mae’n debyg – y disgwyl yw bod Aberdeen ar fin arwyddo Simon Church ar fenthyg o MK Dons.

Fe fyddai chwarae – a sgorio – yn rheolaidd yn yr Alban yn hwb mawr i obeithion Church o gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Ewro 2016.

19.39: Rhywfaint o fusnes wedi digwydd ers ein diweddariad diwethaf – wel, mae Daniel Alfei wedi gadael Abertawe ar fenthyg i Mansfield.

Mae Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi diddymu cytundeb yr amddiffynnwr Gabriel Tamas.

Ond yr un mwyaf annisgwyl yw bod y cefnwr chwith Rhoys Wiggins wedi symud o Sheffield Wednesday yn y Bencampwriaeth i Bournemouth yn yr Uwch Gynghrair!

Allai hynny olygu fod ganddo obaith o gystadlu am le yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2016? Mae gan Chris Coleman bedwar cefnwr chwith yn yr Uwch Gynghrair bellach!

Mae un trosglwyddiad arall allai ddigwydd cyn diwedd y noson hefyd – y si sydd yn drwch ar hyn o bryd yw bod chwaraewr canol cae QPR Leroy Fer ar fin arwyddo ar fenthyg i Abertawe tan ddiwedd y tymor.

16.49: Sut mae’ch Ffrangeg chi? Fe allwch chi ymarfer rhywfaint yn fan hyn wrth ddarllen am Lille yn cadarnhau trosglwyddiad Eder ar fenthyg o Abertawe.

16.23: Amser rhoi ambell si i’w wely hefyd, mae’n debyg. Mae Danny Williams wedi ymarfer gyda charfan Reading heddiw a ddim yn edrych fel petai o’n symud i Abertawe (GetReading.com).

Dyw’r Elyrch ddim chwaith hyd yn oed wedi siarad â chynrychiolwyr Robinho a James Chester (BBC World Service a WalesOnline).

Ai rhywun oedd wedi trio rhoi dau a dau at ei gilydd a phendroni pam na fyddai clwb o Gymru sydd yn isel yn y tabl eisiau arwyddo amddiffynnwr Cymru sydd ddim yn cael gêm yn West Brom?

16.03: Dim byd wedi’i gadarnhau eto, ond sawl ffynhonell yn awgrymu bod Abertawe wedi dod i gytundeb gyda Lille i anfon Eder yno ar fenthyg, ac mai dim ond y manylion sydd angen eu sortio.

Mae yna si hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol bod Dwight Gayle wedi cael ei weld ar drên ar y ffordd i Abertawe, er bod Caerlŷr ar ei ôl hefyd.

Fe fyddech chi’n dychmygu ei bod hi’n gynt teithio o Lundain mewn car neu hofrennydd, felly oni bai fod yr ymosodwr a’i glwb wedi meddwl am ffordd o arbed ychydig o geiniogau, mae hon yn annhebygol o fod yn wir … (mae’n siŵr y bydd o’n arwyddo unrhyw eiliad nawr felly!)

Tybed fodd bynnag a welwn ni unrhyw un yn cael eu harwyddo gan Gasnewydd? Mae’r clwb newydd gadarnhau eu bod wedi derbyn £400,000 ar ôl i Connor Washington symud o Peterborough i QPR, gan fod yr Alltudion wedi rhoi cymal yn y cytundeb aeth ag e i Peterborough yn y lle cyntaf.

Busnes da, ond bosib ei bod hi wedi dod yn rhy hwyr iddyn nhw wneud unrhyw newid sylweddol i’w carfan heddiw.

14.34: Er bod Abertawe wedi arwyddo Alberto Paloschi am £8m o Chievo yn barod, y si ddiweddaraf o Sbaen yw eu bod nhw’n ystyried gwneud cynnig am ymosodwr Barcelona Sandro hefyd (Mundo Deportivo).

Fe allai hynny ddibynnu wrth gwrs a yw Bafetimbi Gomis yn gadael, rhywbeth sy’n edrych yn annhebygol ar hyn o bryd, ac mae’n debyg nad yw Barcelona’n rhy awyddus i adael iddo fynd.

13.29: Diweddariad cyntaf y prynhawn i chi, sef bod Walsall wedi rhyddhau datganiad yn mynnu nad oes unrhyw sail i honiadau eu bod nhw wedi derbyn cynnig am Tom Bradshaw.

Mae tipyn o sôn wedi bod fod clybiau o’r Bencampwriaeth, a Celtic yn yr Alban, yn awyddus i arwyddo’r ymosodwr gafodd ei enwi yng ngharfan ddiwethaf Cymru.

Abertawe

Mae’n bosib y bydd tipyn o fynd a dod o Abertawe heddiw, er ei bod hi’n debyg fod Abertawe wedi gwrthod cynnig gan Newcastle am yr ymosodwr Bafetimbi Gomis.

Fe allai Eder fod yn gadael ar fenthyg i Lille (South Wales Evening Post), Genoa neu Chievo (forzaitalianfootball.com), tra bod gan Leeds hefyd ddiddordeb mewn arwyddo’r amddiffynnwr Kyle Bartley (WalesOnline).

Mae’n debyg bod West Brom wedi gwrthod benthyg James Chester i Abertawe fodd bynnag (BBC Sport), ond mae’r Elyrch yn un o’r clybiau all geisio arwyddo chwaraewr canol cae Lazio Ravel Morrison (Daily Mail).

Yn ôl sïon eraill mae cyn-ymosodwr Man City Robinho hefyd wedi cael ei gynnig i Abertawe (Bleacher Report), ond mae’n fwy tebygol eu bod yn edrych ar geisio arwyddo Dwight Gayle o Crystal Palace am £7m (Daily Telegraph).

Mae’r clwb hefyd yn ystyried gwneud cynnig am chwaraewr canol cae Reading Danny Williams (getreading.com).

Caerdydd

Mae’r clwb eisoes wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo Tom Lawrence ar fenthyg o Blackburn a Kenneth Zohore ar fenthyg o KV Kortrijk yng Ngwlad Belg, felly mae’n bosib na welwn ni llawer mwy o fwrlwm yn Stadiwm Dinas Caerdydd rhwng nawr ac 11 o’r gloch heno.

Ond gyda dau ymosodwr yn dod drwy’r drws mae’n debygol y bydd eraill yn gadael, gyda disgwyl y gallai Federico Macheda ac Alex Revell adael ar fenthyg cyn diwedd y dydd (WalesOnline).

Cymru

Dyw hi ddim yn debygol bellach y bydd Joe Allen yn gadael Lerpwl heddiw, er gwaethaf sôn bod Abertawe wedi gofyn a oedd y chwaraewr canol cae ar fenthyg.

Mae wedi dweud ei fod yn barod i frwydro am ei le yn nhîm Lerpwl wrth iddo geisio sicrhau ei fod ar ei orau cyn Ewro 2016 yn yr haf (ESPN).

Roedd sôn hefyd bod clybiau o’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth wedi ystyried arwyddo Chris Gunter, ond mae rheolwr Reading yn hyderus bellach y bydd yn ymestyn ei gytundeb sydd yn dod i ben yn yr haf (Reading Chronicle).