Mae tîm ar Ynys Môn yn “dathlu’r anrheg Nadolig gorau” tua phythefnos ar ôl achub un o grwbanod môr trofannol mwyaf prin y byd.
Dywed gweithwyr yn Sŵ Môr Môn ym Mrynsiencyn eu bod nhw “wrth eu boddau” fod Rhossi, crwban Kemp’s Ridley ifanc gafodd ei ddarganfod gan gi ar draeth yn Rhosneigr, yn “gwneud cynnydd da”.
Mae’r camau cyntaf ar gyfer edrych ar ôl crwban oer, amddifad sydd wedi ‘cau lawr’ yn hollbwysig, gan ei bod hi’n hawdd iddyn nhw farw wrth gael eu hadfywio.
Ar ôl goroesi’r wythnos gyntaf gyda gofal dwys drwy gydol y dydd a’r nos, mae’r tîm yn falch o gynnydd Rhossi.
‘Addawol iawn’
Yn ôl y tîm, mae dyfodol y crwban bychan yn “addawol iawn”.
Yn y tanc, mae’r crwban wedi cyrraedd y tymheredd iawn o 25 i 26 gradd selsiws bellach, ac yn dangos “arwyddion cadarnhaol ei fod yn gwella”.
Dywed Frankie Hobro, perchennog a chyfarwyddwr Sŵ Môr Môn, mai hyn yw’r “anrheg Nadolig gorau posib i’n tîm”.
Ond maen nhw’n gobeithio am fwy o anrhegion ar ffurf cyfraniadau a chefnogaeth i gefnogi’u gwaith fel unig ganolfan achub crwbanod gwledydd Prydain.
Mae nifer y crwbanod amddifad yn cynyddu gan fod tymheredd y môr yn codi ac yn sgil stormydd garw ym môr yr Iwerydd, ac mae Frankie yn disgwyl y bydd mwy o grwbanod yn cyrraedd glannau Ynys Môn a’r Deyrnas Unedig.
“Fel rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol, mae pob crwban Kemp’s Ridley yn werthfawr, felly rydyn ni’n falch fod Rhossi’n gwella cystal, er bod yna fisoedd lawer o wella o’i flaen.”
Cafodd y crwban ei ddarganfod ar ôl i Meg, ci pedair oed, ei arogli ar Draeth Llydan ddydd Mercher, Rhagfyr 13.
Hyd yn hyn, mae hi rhy gynnar i adnabod ei ryw.
Er ei fod wedi dioddef “difrod corfforol sylweddol” ar ôl cael ei gleisio wrth groesi’r Iwerydd, mae’r tîm yn hyderus y bydd yn gwella ac yn gallu cael ei ryddhau’n ôl i’r môr wedi misoedd o ofal.
Dywed Celyn Marshall, milfeddyg crwbanod o Filfeddygfa Bennett Williams yn Gaerwen, mai’r camau cyntaf oedd gwneud yn siŵr bod ganddo ddigon o ddŵr yn y corff, codi’i lefelau siwgr a chynyddu ei dymheredd.
“Rydyn ni’n symud nawr tuag at ei gefnogi â gwrthfiotigau a fitaminau, ac yn aros i weld arwyddion fod y perfedd yn gweithio ac yn asesu unrhyw anafiadau amlwg.
“Mae yna ffordd hir i fynd, ond mae Rhossi wedi bod yn cwffio o’r cychwyn.”
‘Gwerthfawr ofnadwy’
Mae’r crwban Kemp’s Ridley mewn perygl difrifol o ddiflannu, ac yn cael ei warchod dan reoliadau’r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl.
Yn y 1980au, dim ond ychydig gannoedd o grwbanod benywaidd sy’n nythu oedd ar ôl, i gyd mewn un safle yn Rachno Neuvo ym Mecsico.
Diolch i “waith arloesol” Dr Donna Shaver a thimau cadwraeth, mae safle nythu arall yn Texas erbyn hyn.
Does yna ond tua 8,000 o grwbanod benywaidd sy’n bridio yn y byd heddiw, sy’n golygu fod pob un yn “werthfawr ofnadwy”, meddai Frankie.
“Mae unrhyw Kemp’s Ridley all gael ei achub a’i ddychwelyd i’r gwyllt yn llwyddiant mawr i rywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu.”
Rhossi yw’r pedwerydd crwban oer i gael ei achub gan Sŵ Môr Môn, a’r ail Kemp’s Ridley iddyn nhw ei achub.
Daw hynny wedi iddyn nhw lwyddo i wella Menai, crwban Olive Ridley gafodd ei golchi fyny ar waelod ffordd y Sŵ Môn ar y Fenai ym mis Tachwedd 2016.
Cafodd Tally, crwban Kemp’s Ridley, ei darganfod ar draeth Talacharn ym mis Tachwedd 2021, a chafodd ofal am ugain mis cyn hedfan i Texas ym mis Medi er mwyn cael ei gollwng yn rhydd yn nhraeth Galveston.
Cafodd Tonni, crwban pendew, ei ganfod ar lannau’r Fenai fis Ionawr eleni, ac mae hi’n disgwyl dychwelyd i’r Ynysoedd Dedwydd yn fuan.
‘Angen cefnogaeth’
Dywed tîm Sŵ Môr Môn eu bod nhw’n “eithriadol o falch” o allu gwella’r crwbanod, ond eu bod nhw angen arian i gael offer arbenigol. Yn sgil hynny, maen nhw wedi agor tudalen i godi arian.
“Mae gofalu am, a gwella, crwbanod yn galw am lawer o’n hamser a’n hadnoddau,” meddai Frankie.
“Ond nid ydyn ni’n cael unrhyw gyllid allanol i achub crwbanod, rydyn ni’n gwbl ddibynnol ar elw tymhorol o’r busnes a chyfraniadau gwirfoddol.
“Mae ein cyllid yn cael ei ymestyn, ac rydyn ni wir angen cefnogaeth y cyhoedd, a chyfraniadau i helpu gyda’r offer arbenigol a chostau rhedeg.”
Mae Frankie hefyd yn cynghori unrhyw un sy’n dod o hyd i grwban ar y glannau i beidio â chymryd ei fod wedi marw.
“Maen nhw’n gallu ‘cau lawr’ yn gorfforol yn sgil tymheredd isel a gwella dan yr amodau cywir os ydyn nhw’n cael eu hachub yn sydyn.
“Peidiwch â chymryd eu bod nhw wedi marw, peidiwch eu cyffwrdd na thrio’u rhoi yn ôl yn y môr, gall yr oerfel eu ladd.”
Mae Rhossi’n cael ei gadw ar ben ei hun ar hyn o bryd, ac nid oes gan y cyhoedd hawl i’w weld, medd y sŵ.