Mae disgwyl rhagor o wyntoedd cryfion a glaw trwm ar draws y rhan fwyaf o Gymru fory (dydd Sadwrn, Rhagfyr 30).

Mae rhybuddion melyn am wynt a glaw mewn grym ar gyfer 19 o siroedd y wlad, bob un oni bai am Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn y gogledd-ddwyrain.

Bydd y rhybudd am law mewn grym rhwng 10yb a 6yh ddydd Sadwrn, a’r rhybudd am wyntoedd cryfion rhwng 11yb fory a 3yb ddydd Sul.

Fe wnaeth Storm Gerrit achosi trafferthion mewn rhannau o’r wlad ganol wythnos, ac mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai hyd at 30mm o law ddisgyn ledled Cymru eto.

Gallai hynny fod yn nes at 50mm yn y gogledd-orllewin.

Mae’r rhybudd am wyntoedd yn nodi y gallai hyrddiadau gyrraedd hyd at 75m.y.a. mewn ger yr arfordir.

Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio y dylai pobol fod yn barod am lifogydd mewn deuddeg ardal yng Nghymru – y rhan fwyaf ohonyn nhw ar hyd ffin ddwyreiniol Cymru, o Langollen i Gasnewydd.

Mae rhybuddion hefyd mewn grym o amgylch Afon Tywi ger Caerfyrddin a Llandeilo a de Sir Benfro.