Mae llai o blant angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol yn sgil cynllun newydd i hyfforddi athrawon.

Pwrpas y cynllun, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, ydy cael timau therapi galwedigaethol i weithio gydag ysgolion i wneud newidiadau yn yr ystafell ddosbarth a rhoi sgiliau newydd i athrawon.

Ers 2015, mae therapyddion galwedigaethol wedi bod yn cynnal clinigau a chynnig cefnogaeth arbenigol a hyfforddiant mewn 63 ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

‘Yr effeithiau’n amlwg’

Mae James Marshman a Carly Williams, dau therapydd galwedigaethol plant, wedi ennill Gwobr Arloesi Mewn Gofal Iechyd am Weithio Dros Ffiniau am eu gwaith, sy’n ganlyniad i bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ac awdurdod addysg Castell-nedd Port Talbot.

“Fel therapyddion galwedigaeth oedd yn gweithio o fewn model gymunedol draddodiadol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, roedd hi’n anodd creu newid effeithiol mewn ysgolion,” meddai Carly Williams.

“Nawr fel therapyddion galwedigaethol sy’n cael ein cyflogi o fewn addysg, rydyn ni’n cael ein parchu fel aelodau o’r tîm.

“Mae athrawon yn ymwneud efo ni mewn ffordd wahanol ac maen nhw’n gwneud ymdrech i gael cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant gan therapyddion galwedigaethol.

“Mae’r effeithiau’n amlwg ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Rydyn ni’n clywed gan athrawon eu bod nhw’n teimlo’n hyderus bod ganddyn nhw gynllun, ac yn gwybod sut i’w defnyddio er mwyn helpu’r plentyn.”

Cefnogaeth ‘amhrisiadwy’

Ynghyd â chynnig cyngor, ymgynghoriadau a sesiynau hyfforddiant i athrawon, mae James Marshman a Carly Williams yn treulio deuddydd yr wythnos yn gweithio gyda’r tîm sy’n cefnogi disgyblion ag awtistiaeth ac anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Ysgol Gynradd Awel y Môr ym Mhort Talbot wedi bod yn gweithio gyda’r tîm ers dwy flynedd, a dywed Lisa Whiteman, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol, fod eu cyngor wedi bod yn “amhrisiadwy”.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda nhw yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ofyn am gymorth, cefnogaeth a chyngor ar gyfer disgyblion unigol.

“Maen nhw wedi cynnig strategaethau i ddisgyblion, ynghyd â dod i’r ysgol i oruchwylio a thrafod gyda rhieni.

“Mae ganddyn nhw ystod o arbenigedd, ac mae ganddyn nhw wastad awgrymiadau a chyngor sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol bob aelod o staff, ynghyd ag anghenion ychwanegol y disgyblion.

“Rydyn ni’n ffodus iawn eu bod nhw’n gweithio efo ni.”