Mae sŵ yn y gogledd wedi bod yn helpu’r blaned wrth fwydo ffrwythau a llysiau dros ben o archfarchnadoedd i’r anifeiliaid.

Bob wythnos, mae’r Sŵ Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn yn defnyddio 1.5 tunnell o fwyd fyddai’n mynd i’r domen sbwriel fel arall.

Yn ystod cyfnod y Nadolig, mae’r bwydydd yn cynnwys llawer o sbrowts a moron, sy’n ffefrynnau gan geirw y Sŵ.

Mae’r anifeiliaid hefyd yn bwyta helyg a bambŵ sy’n tyfu ar y safle, ac mae’r sŵ’n creu ei ynni ei hun drwy 39 panel solar ar do siop y sŵ.

“Mae cynaliadwyedd a gofalu am yr amgylchedd wrth wraidd popeth a wnawn, o addysgu plant a’r grwpiau sy’n dod yma, i dorri lawr ar filltiroedd bwyd lle bynnag y bo modd,” meddai Jen Jesse, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gweinyddiaeth y Sŵ.

“Rydyn ni’n gwthio’r neges am ficroblastigau a llygredd yn y moroedd pan fyddwn ni’n cynnal ein harddangosfeydd bywyd môr yn ogystal â’r holl bethau ymarferol rydyn ni’n eu gwneud.

“Mae’r ffrwythau a’r llysiau rydyn ni’n eu cael o’r archfarchnadoedd o fudd i ni ac mae’n dargyfeirio llawer o fwyd i ffwrdd o safleoedd tirlenwi ar yr un pryd.”

‘Y tsimpansïaid yn hoffi nionod…’

Eglura Alex Davies, Rheolwr Addysg y Sŵ, fod y bwyd maen nhw’n ei dderbyn fel arfer wedi pasio’i ddyddiad gwerthu ond ei fod yn berffaith iawn i fwyta.

“Gall hefyd gynnwys pethau fel tomatos y mae siopwyr wedi’u codi a’u rhoi yn ôl gyda’r llysiau ciwcymbr, sy’n golygu na allan nhw fynd yn ôl i’w gwerthu i’r cyhoedd ond does dim byd o’i le arnyn nhw,” meddai Alex Davies.

“O gwmpas Calan Gaeaf roedd gennym lawer o bwmpenni’n cael eu danfon atom ac ar hyn o bryd rydyn ni’n cael llwyth o sbrowts.

“Dydy rhai anifeiliaid ddim yn gallu bwyta rhai pethau. Mae ffrwythau yn uchel iawn mewn siwgr felly ni all y rhan fwyaf o anifeiliaid eu bwyta oherwydd mae’n rhaid i ni ofalu am eu dannedd a rheoli cyflwr eu cyrff.

“Mae gennym daflenni diet penodol iawn ar gyfer pob un o’n gwahanol anifeiliaid, ac rydym yn eu bwydo yn unol â hynny.

“Hoff fwyd y tsimpansïaid yw nionod ac mae aeron yn ffefryn mawr gyda’n heirth tra bod y ceirw wrth eu boddau efo moron.”

Ceirw’r sŵ

Dathlu’r 60

Fe wnaeth llwyddiant amgylcheddol y sŵ ddenu sylw Rhwydwaith Sero Net Gogledd Cymru’n ddiweddar, a buon nhw yno ar ymweliad.

Nod y rhwydwaith yw rhannu gwybodaeth er mwyn helpu busnesau a sefydliadau eraill yn y rhanbarth i gyrraedd statws sero net.

Trefnwyd yr ymweliad gan Ashley Rogers, Prif Weithredwr Cyngor Busnes Gogledd Cymru, sy’n rhedeg y Rhwydwaith Sero Net.

“Yr hyn rwy’n ei hoffi yn arbennig am Sŵ Fynydd Gymreig yw bod y gwaith maen nhw’n ei wneud mor amlochrog,” meddai Ashley Rogers.

“Mae’r Sŵ yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed eleni gan ddenu mwy nag wyth miliwn o bobol yn y cyfnod hwnnw ond mae’n llawer mwy nag atyniad i dwristiaid, er ei fod yn un gwych ac wedi’i gydnabod yn ddiweddar gyda Gwobr Gwasanaeth I Dwristiaeth Go North Wales.

“Mae’r sŵ hefyd yn ganolfan addysg a chadwraeth ac maen nhw’n lleihau’r effaith amgylcheddol ar draws eu gweithrediadau eu hunain ar yr un pryd.

“Mae hynny’n ysbrydoliaeth i bob un ohonom wrth i ni weithio tuag at ddyfodol sero net.”