Mae enw’r ddynes fu farw yn dilyn tân a ffrwydrad ar Ystad Ddiwydiannol yn Nhrefforest wedi cael ei gyhoeddi.
Roedd Danielle Evans yn 40 oed, a chafodd ei hadnabod yn ffurfol fore heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 15), gan ei theulu sy’n cael eu cefnogi gan yr heddlu.
Roedd hi’n rhedeg ei chwmni labordy ei hun, Celtic Food Labs.
Mae hi wedi’i disgrifio gan ei theulu fel “corwynt o ddynes” fydd yn gadael “bwlch mawr yng nghalonnau ei theulu a’i ffrindiau”.
Mae wedi’i galw’n “alluog, yn ofalgar ac yn enaid hardd”, ac roedd ei gŵr, ei theulu, ei chŵn a’i ffrindiau’n bwysig iddi, meddai ei theulu sy’n dweud ei bod hi’n “wraig hynod ffyddlon a chariadus a’r ffrind gorau y gallai neb obeithio’i chael”.
“Roedd hi’n cyfarch dieithriaid a ffrindiau â’r un egni oedd yn bositif, yn heintus ac yn gariadus,” meddai’r teulu.
“Byddai hi’n eich tynnu chi i mewn i’w chylch fel neb arall fyddech chi’n cwrdd â nhw nac y byddwch chi’n cwrdd â nhw eto, yn fagned oedd yn ein tynnu ni ynghyd.”
Roedd ei diddordebau’n cynnwys gwyddoniaeth, gwersylla, mynd i bartïon gyda’i ffrindiau, a threulio amser gyda’i theulu.
Dywed ei theulu ei bod hi’n fodryb “anhygoel”, ei bod hi’n “caru pob eiliad gyda’i nithoedd”, a’i bod hi’n dod o “deulu cariadus, ac yn agos at ei mam, ei thad, ei brawd, ei modrybedd a’i hewythrod”.
“Roedd ei chariad heb ffiniau,” meddai’r teulu.
“Mi wnaeth hi gyffwrdd â chymaint o fywydau.”
Mae’r teulu wedi diolch i’r gwasanaethau brys “o waelod calon” am fod yn “broffesiynol ac arwrol”.
‘Adeg anodd iawn’
“Mae ein meddyliau yn dal gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Danielle ar adeg anodd iawn iddyn nhw,” meddai’r Ditectif Arolygydd Richard Jones.
“Mae ein hymchwiliad yn parhau i geisio dod o hyd i achos y digwyddiad, ac mae’r ymholiadau hyn yn cael eu cwblhau mewn partneriaeth ag asiantaethau perthnasol.
“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn amynedd a dealltwriaeth y busnesau ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest a thrigolion lleol wrth i’r gwaith hwn barhau.”