Bydd perchnogion ail gartrefi yn Sir Benfro yn talu treth gyngor driphlyg, yn dilyn trafodaeth hir ac angerddol ymhlith cynghorwyr oedd wedi tynnu sylw at rannau “marw, bron” o’r sir dros fisoedd y gaeaf.

Mae Sir Benfro wedi bod yn gweithredu premiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi – sy’n gyfystyr â dwywaith y gyfradd – ynghyd â phremiwm o 25-100% ar gyfer eiddo gwag, yn dibynnu pa mor hir fu’r eiddo’n wag.

Yn eu cyfarfod ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 14), roedd argymhelliad y dylai aelodau o Gyngor llawn Sir Benfro gymeradwyo premiwm o 200% ar gyfer ail gartrefi, sydd wedi’i gefnogi gan y Cabinet, gydag eiddo gwag yn wynebu premiwm o 50% ar gyfer y rhai fu’n wag ers dwy flynedd, gan gynyddu i 200% ar gyfer y rhai fu’n wag ers tair blynedd neu fwy.

Cyfiawnhad

Dywedodd y Cynghorydd Alec Cormack, yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol, wrth aelodau fod y bil treth gyngor blynyddol ar gyfer trigolion parhaol, ar adeg pan fo’r Cyngor yn wynebu rhagfynegiad o fwlch ariannol gwerth £27.1m, yn debygol o weld cynnydd canrannol o fwy nag 20%.

Disgrifiodd e’r penderfyniad i alw am gyfradd ail gartrefi uwch fel un “llawer iawn mwy anodd” na’r un yn achos eiddo gwag, gyda nifer o’r fath berchnogion â chysylltiadau hirdymor â’r sir.

Gan gyfeirio at Lanusyllt fel enghraifft, dywedodd fod rhai rhannau o’r sir sy’n boblogaidd ymhlith perchnogion ail gartrefi wedi gweld gostyngiad enfawr yn nifer y teuluoedd â phlant oed ysgol yn byw ynddyn nhw, gan ddweud bod canol y pentref wedi’i ddisgrifio fel “parth di-blant, bron iawn”, gyda nifer y disgyblion yn yr ysgol hanner yr hyn oedd e ddegawd ynghynt.

Dywed y gallai’r premiwm arfaethedig ar gyfer ail gartrefi godi oddeutu £5m ar gyfer coffrau’r Cyngor, gydag oddeutu £1m yn cael ei godi o eiddo gwag, gyda’r ddau yn cyfateb i ryw 8-9% o fil y dreth gyngor.

“Ydyn ni’n bod yn deg? O ystyried graddau’r bwlch ariannol, fydd dim byd wnawn ni’n ‘deg’, dydy treth y cyngor ddim yn ‘deg’, a byddai ei gynyddu o fwy nag 20% yn bwrw pobol dlawd sy’n gweithio galetaf,” meddai.

Gwrthwynebu cynnydd o 200%

Dywedodd nifer o aelodau nad oedden nhw’n gallu cefnogi’r cynnydd o 200%, gan gefnogi gwelliant i 150%, “gan ddefnyddio’r forthwyl mewn ffordd betrus”, gafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Jamie Adams, oedd wedi cyflwyno’r premiwm ail gartrefi gwreiddiol pan oedd yn arweinydd.

Un o’r rheiny oedd yn gwrthwynebu’r gyfradd o 200% oedd y Cynghorydd Mark Carter, oedd wedi pwysleisio nad pobol gyfoethog o Lundain yn ymweld “cwpwl o weithiau bob blwyddyn” mo pob perchennog ail gartrefi.

Fe wnaeth e grybwyll sefyllfa pobol leol sy’n rhoi llety gwyliau ar rent er mwyn cynyddu eu hincwm ond nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cyfraddau busnes, gan ddweud y gallai’r cynnydd arfaethedig “ddileu’r tymor haf cyfan yn ei hanfod”.

Daeth ple angerddol ynghylch y gyfradd o 200% gan Michael Williams, cynghorydd Dinbych y Pysgod oedd wedi galw am gyfradd o 100% yn 2016.

Dywedodd fod cymunedau oedd unwaith yn ffynnu “bron â marw” bellach y tu allan i dymhorau gwyliau.

“Edrychwch ar ganol tref Dinbych y Pysgod – hyd yn oed yn ystod y dydd, mae hi bron yn farw,” meddai.

“Does dim perchnogion ail gartrefi adeg yma’r flwyddyn.

“Cerddwch drwy’r trefi yn y nos, ac mae strydoedd cyfan, bron, yn y tywyllwch.

“Mae dweud eu bod nhw’n gwario mwy nag y maen nhw yn eu cymunedau eu hunain yn nonsens; maen nhw’n dod â’u bwyd o Waitrose.

“Mae perchnogion ail gartrefi’n esgus nad ydyn nhw’n gallu gweld y niwed maen nhw’n ei achosi i’r cymunedau; maen nhw’n achosi niwed enfawr.

“Dw i’n gwybod ei fod yn offeryn di-fin, ond rhowch ateb arall i ni; mae ein cymunedau lleol yn cael eu gwagio, a dyma’r unig offeryn sydd gyda ni i fynd i’r afael â’r mater hwn.”

Canlyniad y bleidlais

Cafodd gwelliant Jamie Adams ei drechu o 36 pleidlais i 13, gyda’r argymhelliad o 200% – cyfradd driphlyg yn ei hanfod – yn cael ei basio o 28 pleidlais i 21.

Ar fater y premiwm eiddo gwag, roedd gwelliant gan y Cynghorydd Huw Murphy i geisio cynnydd ar gynigion gafodd eu cymeradwyo gan y Cabinet: 100% ar ôl 24 mis, 200% ar ôl 36 mis, a 300% ar ôl pum mlynedd.

Roedd y cynnig hwn yn llai dadleuol, gyda’r Cynghorydd Alec Cormack yn nodi y byddai’n ei gefnogi yn hytrach na’i argymhelliad ei hun, ac fe wnaeth y Cynghorydd Aled Thomas ddisgrifio eiddo gwag hirdymor fel rhai sy’n “dod â dim byd” i’w cymunedau.

Cafodd y gwelliant hwnnw ei basio o 42 pleidlais i bedair.

Bydd yr holl newidiadau’n dod i rym yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.