Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â gwahardd bwydo llaeth amhasteuraidd i wartheg mewn safleoedd â Statws Heb TB swyddogol wedi’i Ddiddymu.

Roedd y cynnig, gafodd ei gyflwyno yn ymgynghoriad Rhaglen TB 2021 y llywodraeth, wedi codi pryderon ymysg aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ynghylch y gost ac anymarferoldeb.

Byddai’r polisi wedi golygu bod rhaid pasteureiddio llaeth mamau ar gyfer pob llo, er mwyn lleihau’r risg o ledaeniad TB gwartheg.

Y pryder oedd y byddai’r lloi yn colli allan ar fanteision derbyn colostrwm yn ystod dyddiau cyntaf eu bywydau.

Bu i Undeb Amaethwyr Cymru gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru sawl gwaith er mwyn tynnu sylw at bryderon yr aelodau.

‘Hynod falch’

“Rydym yn hynod falch fod ein pryderon wedi’u clywed, a bod hyn wedi arwain at newid polisi cadarnhaol,” meddai Dr Hazel Wright, Pennaeth Polisi Dros Dro Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae’n bwysig er lles y lloi fod lloi’n cael colostrwm a llaeth eu mamau yn ystod ychydig ddyddiau cyntaf eu bywydau.

“O ystyried yr anymarferoldeb aruthrol o geisio pasteureiddio llaeth mamau unigol ar gyfer pob llo, gallai’r cynnig hwn fod wedi effeithio’n andwyol ar les lloi.”

Cam cadarnhaol ymlaen

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae’n debyg fod effaith trosglwyddiadau gan laeth yn yr epidemig TB gwartheg yn isel neu’n ddibwys.

O ganlyniad, mae’r undeb yn credu y byddai’r cam wedi bod yn wastraff adnoddau.

“Er na fydd y cynnig hwn yn cael ei symud ymlaen yn awr, rydym yn annog ceidwaid gwartheg i siarad â’u milfeddyg i ddeall risg trosglwyddiad a gludir gan laeth,” meddai llefarydd.

Ychwanega Sam Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yntau hefyd yn croesawu’r newyddion.

“Mae hwn yn dro pedol i’w groesawu gan Lywodraeth Lafur Cymru yn dilyn ymgysylltu cadarnhaol gan randdeiliaid ffermio,” meddai.

Fodd bynnag, ychwanega fod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r “dinistr” mae TB gwartheg yn ei achosi i fywoliaeth ac iechyd meddwl ffermwyr.

“Ni ddylai unrhyw opsiwn gael ei ddiystyru er mwyn cael gwared ar twbercwlosis buchol,” meddai.

Ychwanega fod angen ystyried mesurau megis brechiadau i wartheg a gwelliannau i drefniadau profi er mwyn cael gwared ar yr haint.