Mae Llŷn yn un o’r ardaloedd sydd wedi’u blaenoriaethu gan Fenter Iaith Gwynedd, yn ôl Cyngor Gwynedd wrth ymateb i feirniadaeth.
“Mae’r iaith Gymraeg yn gwanio yma bob dydd, tra mae arweinwyr Cyngor Gwynedd yn gwadu realiti’r sefyllfa,” meddai Siôn Williams, cadeirydd Cyngor Cymuned Botwnnog, sy’n cefnogi prosiect Perthyn.
Ar ddiwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf (dydd Llun, Rhagfyr 11), fe wnaeth y cynghorau cymuned ddynodi Pen Draw Llŷn yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (Dwysedd Uwch), ar sail tystiolaeth Llywodraeth Cymru ac argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Mae’r criw sy’n anelu at warchod y Gymraeg yn Llŷn yn “gweld gobaith” petaen nhw’n medru gwneud y Gymraeg yn brif reswm dros annog pobol i ymweld â’r ardal.
‘Blaenoriaeth’
Fodd bynnag, mae angen cefnogaeth awdurdodau lleol hefyd, yn ôl Siân Parri, sy’n gweinyddu’r prosiect Perthyn yn Llŷn.
Mae Perthyn yn un o gynlluniau Llywodraeth Cymru i warchod cymunedau Cymraeg sydd â nifer uchel o ail gartrefi.
Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod “hybu a hyrwyddo” y defnydd o’r Gymraeg ar draws cymunedau Gwynedd yn un o’u blaenoriaethau.
“Mae ein strategaeth iaith newydd yn gosod gweledigaeth ar gyfer cynyddu defnydd o’r Gymraeg ar draws y sir gyfan, a bydd ein cynlluniau neu brosiectau dros y blynyddoedd nesaf yn canolbwyntio ar feysydd lle y mae gan y Cyngor rym a dylanwad i weithredu,” meddai.
“Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gartref i’r fenter iaith sirol ac yn cyfrannu tuag at ei hariannu er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad yn ein cymunedau.
“Mae Llŷn yn un o’r ardaloedd sydd wedi ei blaenoriaethu gan y fenter iaith ar gyfer derbyn cefnogaeth gyda sylw eisoes wedi ei roi i ardal Abersoch a Llanbedrog.
“Mae cymuned Botwnnog yn derbyn cefnogaeth ar hyn o bryd gyda diwrnod wedi ei drefnu yng Nghongl Meinciau, Botwnnog yn cychwyn Chwefror 2024 i drafod yr heriau sy’n wynebu’r Gymraeg yno a chynllunio ymyraethau er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg.
“Mae cydweithio hefyd yn digwydd gydag ysgolion lleol cynradd ac uwchradd yr ardal.”
Rheolaeth o’r farchnad dai
Ychwanega’r llefarydd eu bod nhw’n “cymryd camau blaengar” i geisio cael gwell rheolaeth ar y farchnad dai a “thaclo’r argyfwng tai”.
“Er enghraifft, ers 2018 mae’r Cyngor wedi bod yn codi Premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor gyda’r arian wedi’i glustnodi ar gyfer cefnogi trigolion lleol trwy sawl prosiect uchelgeisiol yng Nghynllun Gweithredu Tai’r Cyngor,” meddai.
“Mae hyn yn cynnwys prosiectau sydd eisoes ar waith i ddarparu mwy o dai i bobl leol, mynd i’r afael â digartrefedd yn y sir a chynnig benthyciadau a grantiau i gefnogi pobl i fyw’n lleol.
“Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun Peilot Dwyfor sy’n anelu i reoli’r nifer uchel o lety gwyliau ac ail gartrefi yn yr ardal.
“Enghraifft arall o ddatblygiad sy’n torri tir newydd yw gwaith y Cyngor yn y maes cynllunio yng nghyd-destun ail gartrefi a thai gwyliau.
“Yn gynharach eleni, mae’r Cyngor wedi bod yn holi barn pobl leol ynglŷn â chyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
“Golygai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 y byddai rhaid derbyn caniatâd cynllunio er mwyn newid y defnydd o dŷ preswyl (sydd yn brif gartref) i fod yn ail gartref neu yn llety gwyliau tymor byr.
“Yn ddibynnol ar dderbyn cadarnhad gan Gabinet Cyngor Gwynedd, fe ddaw’r Cyfarwydd Erthygl 4 i rym (ddim yn cynnwys ardal Parc Cenedlaethol Eryri) ar 1 Medi 2024.”