I nodi ugain mlynedd ers un o streiciau hiraf gwledydd Prydain, bydd ffilm arbennig gan ŵyr un o’r streicwyr yn cael ei dangos.
Mae’r ffilm Y Lein: Streic Friction Dynamics wedi’i gwneud gan Dion Wyn, sy’n awyddus i gofio gweithredoedd ei daid, Raymond Roberts, a’r gweithwyr eraill.
Yn sgil y streic, bu gweithwyr yn picedu’r ffatri ar gyrion Caernarfon am bron i 1,000 o ddiwrnodau rhwng Ebrill 2001 a Rhagfyr 2003, ac er iddyn nhw ennill achos mewn tribiwnlys diwydiannol, chawson nhw fyth iawndal.
Bydd y ffilm, sydd wedi’i chreu mewn partneriaeth â Cwmni Da, yn cael ei dangos yn Galeri yng Nghaernarfon ar Ragfyr 19, union ugain mlynedd i’r diwrnod y daeth y streic i ben.
Dechreuodd yr anghydfod pan aeth mwy nag 80 o weithwyr yn y ffatri, oedd yn cynhyrchu darnau brêcs gyfer ceir, ar streic i brotestio yn erbyn newidiadau i’w cyflog a’u hamodau gwaith ar ôl i ddyn busnes o America, Craig Smith, gymryd yr awenau.
Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith, dywedwyd wrth y gweithwyr, pob un yn aelod o Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (T&GWU), i “gymryd gwyliau” a bron i wyth wythnos yn ddiweddarach cawson nhw eu diswyddo.
‘Rhaid gwneud safiad’
Ymunodd Raymond Roberts, sy’n dod o Gaernarfon, â staff y ffatri yn 1968 pan oedd y safle’n cael ei adnabod fel Ferodo ac yn cyflogi 2,000 o weithwyr. Bu’n gweithio yno am 30 mlynedd.
“Roedd yn gyfnod llawn straen, nid yn unig i ni fel gweithwyr ond i’n teuluoedd hefyd, ond roedd yn rhaid i ni wneud safiad,” meddai.
“Er ein bod ni ar ein colled yn y diwedd, roedd cefnogaeth y gymuned yn golygu ein bod ni’n gallu cadw cefnau’n gilydd ac roedd yn rhaid i ni wneud yr hyn wnaethon ni.
“Cawsom lawer o gefnogaeth ariannol gan y gymuned ac undebau eraill tra rhoddodd ffermwr lleol garafán i ni, roeddem yn ei galw y ‘T&G Hilton’, oedd yn rhywle i ni gysgodi mewn tywydd garw.
“Roedd Mr Smith yn meddwl y gallai ein llwgu ni nôl i’r gwaith, ond roedd y rhan fwyaf ohonom yn ein 50au a doedd gynnon ni ddim forgeisi mawr.”
Dechreuodd yr anghydfod pan ddaeth Craig Smith i redeg y ffatri yn 1997 a dechrau gwneud newidiadau i delerau ac amodau’r gweithwyr, meddai.
“Chawson ni ddim codiad cyflog am bedair blynedd ac yn y deunaw mis cyn y streic fe geisiodd o newid ein telerau ac amodau,” ychwanega’r rheolwr safle yn Ystâd Ddiwydiannol Peblig ers bron i ugain mlynedd.
‘Ddim yn ofer’
Cafodd Dion Wyn, sy’n ddylunydd graffeg a gwneuthurwr ffilmiau, ei fagu rywfaint gan ei daid, ac mae ganddo gof plentyn o fynd allan i bicedu yn erbyn newidiadau.
Penderfynodd ddychwelyd i’r brifysgol i astudio Ffilm fel ei fod yn gallu mynd ati o ddifrif i adrodd yr hanes.
“Er fy mod i ddim yn gwybod y stori’n iawn, roeddwn i’n gwybod bod o’n rhywbeth mawr sydd wedi cael effaith fawr ar yr ardal, ac ar ogledd Cymru i gyd,” meddai wrth golwg360.
“Ond os ti’n mynd i [dafarn y] Crown yn dre’, er enghraifft, mynd am beint, fyddi di’n gweld y dynion yma oedd wedi bod ar y lein yn eistedd yn y gongl a dydy’r genhedlaeth ifanc ddim yn adnabod nhw, ddim yn gwybod pwy ydyn nhw.
“O fewn eu hoes nhw, mae’r stori fawr yma oedd byth i fod i gael ei hanghofio, wedi cael ei hanghofio gan bobol ifanc.
“Hefyd yn bersonol i fi, roeddwn i eisiau dweud diolch i taid am ddod â fi fyny, bod yn role model i fi, a hefyd gwneud yn siŵr bod o a gweddill yr hogiau fu’n streicio’n gwybod bod o ddim yn ofer.”
‘Stori bwysig’
Ychwanega Llion Iwan, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Da sydd wedi comisiynu’r ffilm, ei bod hi’n “stori bwysig” i ardal Caernarfon.
“Caeodd y ffatri yn llwyr yn 2008 ac mae wedi parhau i fod yn adfail byth ers hynny fel cofeb i aberth Raymond a’i gydweithwyr dewr a safodd yn gadarn ar y llinell biced am bron i dair blynedd,” meddai.