Mae diwrnodau blasu yn bwysig i brifysgolion, ac yn rhan o’r traddodiad marchnata i geisio denu darpar myfyrwyr, ac erbyn hyn mae Prifysgol Wrecsam yn un o’r prifysgolion yng Nghymru sy’n cynnig y profiad yn ddwyieithog.

Eleni, cafodd eu diwrnod blasu dwyieithog eu cynnal ar Ragfyr 7 ar gampws Plas Coch, Wrecsam.

Cafodd ei drefnu gan griw o staff profiadol, wedi’u harwain gan Elen Mai Nefydd, sy’n Bennaeth Datblygu Academaidd Cyfrwng Cymraeg y brifysgol.

Criw calonogol

Roedd dros 40 o fyfyrwyr yno ar y diwrnod, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n fyfyrwyr Chweched Dosbarth presennol yn Ysgol Morgan Llwyd, lle mae dros 80 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 at ei gilydd ar hyn o bryd, a phob un yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd Millie Rooney, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd, yno a hithau’n astudio cwrs addysg bellach Iechyd a Gofal yng Ngholeg Cambria.

Un o Acrefair, Wrecsam yw hi, ac mae hi wedi dewis mynd i Brifysgol Wrecsam y flwyddyn nesaf gan ei bod yn awyddus i aros yn lleol.

Mae hi wedi bod yn gweithio yn Ysbyty Maelor yn yr ardal leol, ac yn gweld bod yna ddiffyg siaradwyr Cymraeg ymysg y staff yno, ac mae hi am fod yn rhan o’r datrysiad.

Trefn y diwrnod

Yn rhan o’r diwrnod roedd cyflwyniad a sesiwn siarad am gyfleoedd gydag Elen Mai Nefydd, cyn i ddarpar fyfyrwyr fynd ar daith o amgylch y campws, a chael cyflwyniad a darlithoedd mewn Seicoleg a Nyrsio tra bod marchnad ar y gweill er mwyn siarad â staff o’r adrannau perthnasol am y pynciau roedd gan ddarpar fyfyrwyr ddiddordeb ynddyn nhw.

Yn ogystal, roedd sesiwn Therapi Lleferydd ac Iaith gydag aelod newydd o staff, Ffion Roberts.

‘Agoriad llygad’

Hefyd yn bresennol ar y diwrnod roedd Leah Jones, athrawes Gelf yn Ysgol Morgan Llwyd a thiwtor Chweched Dosbarth, a Heledd Gwyn Stanford, Pennaeth y Chweched Dosbarth.

“Mae’n agoriad llygad i’r myfyrwyr ac yn rhoi blas iddyn nhw ar fywyd Prifysgol,” meddai Heledd Gwyn Stanford wrth golwg360 dros siocled poeth oedd yn cael ei ddarparu.

“Maen nhw’n cael gwybodaeth am astudio ac am y byd gwaith, sy’n ddefnyddiol at y dyfodol.

“Mae Prifysgol Glyndŵr ar y stepen drws ac mae’n ein galluogi i greu cysylltiadau, ac rydym wastad yn cael croeso cynnes ac yn gwerthfawrogi’r gwahoddiad.”