Rhaid i gyllideb nesaf Llywodraeth Cymru weithio i gymunedau cefn gwlad, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Mae’r blaid wedi gofyn am fargen decach i ardaloedd gwledig, fyddai’n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n iawn i gynnal cymunedau.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n galw am fwy o gefnogaeth i ffermwyr ac amaeth, fel bod ffermwyr yn cael yr adnoddau cywir i gynhyrchu bwyd, sicrhau llesiant anifeiliaid a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Bydd y gyllideb yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth (Rhagfyr 19), ac mae blaenoriaethau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnwys:

  • Buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a mynd i’r afael â’r argyfwng yng ngwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd.
  • Buddsoddi mewn plant drwy helpu i wella’r argyfwng ariannu mewn ysgolion a chefnogi darparwyr gofal plant.
  • Buddsoddi yn yr economi drwy ymestyn cymorth ariannol i fusnesau bach a sicrhau bod tai’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon.
  • Cefnogi ffermwyr ac amaeth.

‘Esgeuluso ffermwyr’

Dywed Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, fod buddiannau cymunedau gwledig wedi cael eu hesgeuluso gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Drwy wthio am fargen Brexit fethedig, mae’r Ceidwadwyr wedi rhoi mwy o dâp coch ar ffermwyr sy’n dibynnu ar fasnachu gyda phartneriaid ar y cyfandir,” meddai.

“Peidiwch â chamgymryd, mae’r Torïaid wedi troi’u cefnau ar gymunedau gwledig.

“Cyn y gyllideb nesaf, ni all Llywodraeth Cymru a’u partneriaid ym Mhlaid Cymru fforddio anghofio am gymunedau gwledig eto.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw am fargen decach i’n cymunedau gwledig, un sy’n caniatáu i ni sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n iawn.

“Mae angen buddsoddi yn ein heconomïau gwledig, mae ein ffermydd lleol angen cefnogaeth.

“Bydd ein ffermwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac maen nhw’n fwy na pharod i chwarae’u rhan, gyda’r adnoddau cywir.

“Drwy ymestyn y gefnogaeth at fusnesau lleol a darparu mwy o arian i ffermwyr, fedrwn ni helpu’r rhai sy’n cefnogi’n cenedl bob blwyddyn.”