Judith Green
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes 63 oed fynd ar goll o’i chartref yn nhref Abercarn, ger Casnewydd.

Does neb wedi gweld Judith Green ers 19 Ionawr, ac mae Heddlu Gwent yn credu y gallai fod wedi teithio i ardal Glasgow.

Mae hi’n groen wyn, tua 5 troedfedd 2 fodfedd o daldra ac o faint canolig. Mae ganddi wallt wedi britho a llygaid gwyrdd.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani, ffonio 101 gan ddyfynnu’r rhif 387 19/01/16.