Mae mam o Wrecsam sy’n helpu rhieni a’u plant i gysgu’n well yn y nos yn dweud bod diffyg cwsg yn ddrwg i’r iechyd meddwl a chorfforol.

Mae’r rhesymau am ddiffyg cwsg yn niferus, yn ôl Rhian Mills, sy’n dweud bod y cyflwr yn fwy cyffredin o lawer yn yr oes sydd ohoni.

Dywed fod diffyg cwsg yn cael cryn effaith ar iechyd meddwl a chorfforol, a’i fod yn gallu gwneud i ni deimlo’n waeth.

“Os dydyn ddim yn cael digon o gwsg, rydym yn fwy tebygol o ddioddef o ganser, afiechyd y galon a diabetes,” meddai wrth golwg360.

“Mae hefyd yn effeithio ar ein hiechyd meddwl.

“Os dydyn ddim yn cael digon o gwsg, rydym yn fwy tebygol o deimlo’n isel a hefyd teimlo’n flin.

“Mae’n golygu ein bod ni’n methu canolbwyntio gymaint.

“Rydym yn fwy tebygol o wneud camgymeriadau a chael damweiniau.

“Hefyd, mae’n lleihau ein motivation i wneud ymarfer corff ac i fwyta’n iach.

“Mae’n effeithio ar ein hiechyd mewn llawer o wahanol ffyrdd.”

Helpu pobol i gysgu

Wrth helpu plant i gysgu’n well yn y noson, mae hynny yn ei dro yn helpu rhieni i gysgu’n well hefyd.

“Rwy’n helpu rhieni efo plant pedwar mis oed hyd at saith mlwydd oed,” meddai Rhian Mills wedyn.

“Rwy’n gweithio efo rhieni i gael patrymau cwsg gwell i mewn i’r plant gael cysgu’n well.

“Yn ei dro, mae hynny’n golygu bod y rhieni yn cysgu’n well.”

Mae diffyg cwsg yn broblem gynyddol wrth i bobol dreulio mwy o amser o flaen sgriniau a gweithio gartref.

“Mae yna lawer o bethau yn mynd ymlaen,” meddai.

“Mae pobol, fel maen nhw’n mynd yn hŷn, yn tueddu i stryglo efo cwsg.

“Hefyd, mae yna gymaint yn mynd ymlaen y dyddiau yma, mae pawb yn byw bywydau prysur.

“Os ydy rhywun yn stressed, maen nhw’n mynd i’w ffeindio fo’n anodd mynd i gysgu, ac maen nhw’n mynd i ddeffro mwy yn y nos.

“Hefyd, mae yna fwy o sgriniau y dyddiau yma, mae pawb ar ffonau gyda’r nos, neu ar dabledi.

“Hefyd, mae pobol yn gweithio gartref mwy ers y pandemig, ac wedyn rwy’n meddwl bod pobol yn ei ffeindio fo’n anodd i switsio i ffwrdd o’r gwaith.”

Pum cyngor golwg360 i’ch helpu i gysgu:

    1. Ewch i’r gwely yr un amser bob nos, a deffrwch yr un amser bob dydd
    2. Ymlaciwch am o leiaf awr cyn mynd i’r gwely – darllenwch lyfr neu ewch i’r bath
    3. Sicrhewch fod eich ystafell wely’n dywyll ac yn dawel – defnyddiwch lenni neu orchudd ffenest, masg a chlustffonau os oes angen
    4. Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd yn ystod y dydd
  • Sicrhewch fod eich gwely a’ch dillad gwely’n gyfforddus
Rhian Mills gyda'i phlant

Mam sydd â phrofiad o blant yn methu cysgu’n defnyddio dulliau holistaidd i helpu plant eraill

Lowri Larsen

Yn ôl Rhian Mills, mae yna ddulliau i’w defnyddio sy’n garedig i’r plentyn sy’n methu cysgu