Mae’r cynlluniau ar gyfer creu Senedd gydradd wedi’u gohirio ychydig ddyddiau cyn bod disgwyl eu cyhoeddi, er mwyn gwneud “gwaith pellach”.
Cafodd Bil Diwygio’r Senedd, sef deddfwriaeth i greu Senedd fwy, ei gyhoeddi fis Medi eleni yn y gobaith y byddai wedi cael ei gymeradwyo erbyn 2026.
Un o ddibenion y bil yw cynyddu nifer Aelodau’r Senedd o 60 i 96, a bwriad arall oedd y byddai’n gwneud y Senedd yn fwy cydradd o ran rhywedd.
Golyga hyn y byddai nifer gyfartal o fenywod a dynion yn y Senedd.
Tra bod Plaid Cymru a’r Blaid Lafur eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i Senedd fwy cydradd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylid ethol Aelodau’r Senedd ar sail yr hyn maen nhw’n ei gynnig.
Fodd bynnag, cafodd y cynlluniau i gyflwyno cwotâu rhywedd eu rhoi mewn bil gwahanol i Fil Diwygio’r Senedd, yn dilyn pryderon y byddai’n wynebu heriau cyfreithiol.
Pe bai’r cynlluniau ar gyfer creu cwotâu rhywedd wedi’u cynnwys, y peryg yw y gallai fod wedi dal y broses yn ôl.
Pwerau annigonol?
Mae gohirio’r cynlluniau ar gyfer Senedd gydradd wedi codi cwestiynau a oes gan Lywodraeth Cymru’r pwerau sydd eu hangen i wneud y fath newidiadau.
Y llynedd, dywedodd Darren Millar, un o Aelodau Ceidwadol y Senedd, fod cyfreithwyr wedi rhoi cyngor nad oes gan y Senedd y pwerau cyfreithiol angenrheidiol.
Yn ôl copi drafft o’r ddeddfwriaeth gafodd ei gyhoeddi gan Rwydwaith Hawliau Menywod Cymru fis Hydref, byddai’r ddeddfwriaeth yn galluogi menywod trawsryweddol i sefyll fel menywod.
Tra bod Rwydwaith Hawliau Menywod Cymru yn honni bod hyn yn “gwreiddio ideoleg wenwynig”, mae Stonewall Cymru yn “llwyr gefnogi” y mesur.
Dydy Llywodraeth Cymru heb roi rheswm clir dros ohirio’r cynlluniau, a does dim sôn am ba hyd mae’r cynlluniau wedi’u gohirio chwaith.
“Rydym yn gwneud rhagor o waith ar y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy’n golygu na fyddwn yn cyhoeddi ar Ragfyr 4 fel yr oedd disgwyl yn wreiddiol,” meddai llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru.