Mae disgwyl i uwch gynghorwyr gymeradwyo galwadau i godi’r premiwm treth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag yn Sir Benfro, sy’n wynebu trafferthion ariannol, i o leiaf 150%.

Mae rheolau treth lleol newydd gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru’n gynharach eleni yn galluogi awdurdodau lleol i osod a chasglu premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o hyd at 300%.

Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro’n gweithredu premiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi, ar ôl cyflwyno premiwm treth gyngor o 50% ar ail gartrefi yn 2017.

Cafodd premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor ei gyflwyno yn y sir yn 2019 ar gyfer eiddo fu’n wag ers tair blynedd neu fwy.

Ymgynghoriad

Mae gwybodaeth gafodd ei gyhoeddi’n gynharach eleni gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n dangos bod dros 60% o gartrefi mewn rhai rhannau o’r sir yn ail gartrefi.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar unrhyw newidiadau posib i’r premiwm – o 0% i 300% – ei lansio gan Gyngor Sir Penfro yn gynharach eleni.

Mae argymhelliad y dylai aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro, fydd yn cyfarfod ar Ragfyr 4, gefnogi cynnydd yn y premiwm treth gyngor ar gyfer ail gartrefi i 150% neu fwy, yn ogystal â chynnydd ar gyfer eiddo gwag i 50% am ddwy flynedd a 150% am dair blynedd neu fwy.

Byddai unrhyw gefnogaeth gan y Cabinet yn argymhelliad i gyfarfod y Cyngor llawn ar Ragfyr 14, lle byddai penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

Dywed adroddiad ar gyfer aelodau’r Cabinet fod 1,650 o ymatebion wedi’u derbyn yn ystod yr ymgynghoriad diweddar, gyda 74% gan bobol nad ydyn nhw’n drigolion, gyda’r rheiny sy’n berchen ar ail gartrefi neu lety gwyliau ddim eisiau gweld y premiwm yn codi ac yn ffafrio dim premiwm neu bremiwm is.

O blith yr ymatebwyr sydd heb ail gartref, llety gwyliau neu eiddo gwag, roedd 36% eisiau gostyngiad, 21% yn ffafrio dim newid, a 38% o blaid cynnydd.

Adroddiad

Mae’r adroddiad yn crybwyll sylwadau gan Jon Haswell, Cyfarwyddwr Adnoddau’r Cyngor, sy’n cynnwys modelu cyllidebol ar sail bwlch ariannol disgwyliedig y Cyngor ar gyfer 2024-25 o £26.3m.

Mae’r adroddiad yn ymwneud â’r lefel premiwm treth gyngor yn unig, gydag amlinelliad o gyllideb ddrafft y Cyngor Sir ar gyfer 2024-25 hefyd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar Ragfyr 4, allai gael effaith ar y ffigurau yn yr adroddiad hwn.

Mae adroddiad Jon Haswell yn dangos angen posib ar gyfer cynnydd cyffredinol o 15% yn nhreth y cyngor pe bai’r premiwm yn codi, ynghyd â’r defnydd o arian wrth gefn ac arbedion cost gwasanaethau cyffredinol o £9.8m.

Yn ôl ei sylwadau, pe na bai’r premiwm yn codi, byddai treth y cyngor yn gyffredinol yn codi “ymhell dros” 15%, gyda rhai o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu torri “tu hwnt i lefelau isafswm gwasanaeth statudol”, gyda’r defnydd o arian wrth gefn “yn blaster fyddai’n gadael bwlch ariannol disgwyliedig hyd yn oed yn fwy er mwyn pontio yn 2025-26 a thu hwnt”.

182 diwrnod a’r Gymraeg

Yn y cyfamser, mae disgwyl i uwch gynghorwyr wrthod galwadau i dorri’r rheol 182 diwrnod ar gyfer gwyliau hunanarlwyo er mwyn gallu talu cyfraddau busnes yn hytrach na threth ail gartrefi yn Sir Benfro.

Fe wnaeth Nodyn Hysbysiad gan y Cynghorydd Huw Murphy, gafodd ei glywed yn flaenorol yng nghyfarfod Cyngor Sir Penfro fis Hydref, ofyn am ostyngiad ar gyfer Sir Benfro ym meini prawf Llywodraeth Cymru lle mae’n rhaid i lety gwyliau fod wedi’u llenwi am 182 diwrnod y flwyddyn – i fyny o’r 70 blaenorol – er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyfraddau busnes.

Mae ail gartrefi, a busnesau hunanarlwyo nad ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf, yn talu premiwm treth gyngor o 100% yn y sir ar hyn o bryd, gyda chynnydd o 150% yn cael ei grybwyll.

Dywed y Cynghorydd Huw Murphy fod mwy o Gymraeg yn cael ei siarad mewn llefydd gwyliau fel Trefdraeth, Sir Benfro a Cheinewydd yng Ngheredigion yn ystod yr haf “drwy fod siaradwyr Cymraeg o ardaloedd trefol yng Nghymru megis Caerdydd yn cael gwyliau yng nghymunedau eu mebyd nag sy’n cael ei siarad yn ystod misoedd y gaeaf”.

Dywed fod nifer o’r perchnogion ail gartrefi Cymreig “wedi cynnal cysylltiadau diwylliannol drwy beidio gwerthu eiddo maen nhw wedi’u hetifeddu” ond fod y “realiti economaidd wedi mynd â’u gyrfaoedd i rywle arall”.

“Mae nifer o’r eiddo hyn wedi cael eu trosglwyddo dros y cenedlaethau ac yn cae eu defnyddio fel bythynnod gwyliau hunanarlwyo i leddfu’r gost o gynnal a chadw, gan nad yw nifer o’r bobol sy’n berchen ar yr eiddo hyn drwy etifeddiaeth yn fancwyr buddsoddi cyfoethog o Lundain ond yn hytrach yn weision cyhoeddus ar gyflogau cyffredin sy’n rhoi’r eiddo hyn ar rent er mwyn gallu fforddio perchnogaeth ac hefyd i gynilo ar gyfer eu hymddeoliad,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’r posibilrwydd o orfod talu 150% neu fwy ar dreth gyngor ail gartrefi’n bryder mawr i nifer allai geisio gwerthu, a does dim amheuaeth y byddai tai sydd dan berchnogaeth pobol Gymreig ar hyn o bryd, a nifer ohonyn nhw’n siarad Cymraeg, fwy na thebyg yn cael eu gwerthu i brynwyr tu allan i Gymru pe baen nhw’n cael eu gwerthu.”

Yr argymhelliad yw na ddylid derbyn y cynnig, ond yn hytrach y dylid ei adolygu ymhen deuddeg mis.