Mae pobol 16-24 oed yng Nghymru dair gwaith yn fwy tebygol o fod ar gytundebau oriau sero na phobol dros 25 oed, yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur (TUC)’.
Yn ôl adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Tachwedd 30), mae oddeutu un ym mhob deuddeg (8.2%) o weithwyr yn y grŵp oedran yma wedi’u cyflogi ar gytundebau oriau sero, o gymharu ag un ym mhob naw (2.6%) dros 25 oed.
‘Gweithwyr’ yw pobol sydd ar gytundebau oriau sero, sy’n golygu eu bod nhw’n colli allan ar hawliau hanfodol, megis yr hawl i ofyn am amodau gwaith hyblyg neu’r hawl i ddychwelyd i’w swyddi ar ôl mamolaeth, mabwysiadu, tadolaeth neu gyfrifoldebau rhianta ar y cyd.
Mae nifer hefyd yn colli allan ar hawliau sicrwydd cymdeithasol, megis cyflog mamolaeth neu dadolaeth llawn.
Mae 474,000 o weithwyr ifainc wedi’u cyflogi ar gytundebau oriau sero ledled y Deyrnas Unedig.
Hawliau
Mae 72% o weithwyr ifainc 16-24 oed yn colli allan ar hawliau gwaith allweddol.
Tra bod gan rai gweithwyr hawliau o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth, dim ond ar ôl dwy flynedd o weithio’n barhaus y caiff eraill yr un hawliau, gan gynnwys gwarchodaeth rhag diswyddiad annheg a’r hawl i dâl diswyddo statudol.
Mae gweithwyr 16-24 yn llawer llai tebygol o fod wedi bod mewn cyflogaeth barhaus am ddwy flynedd, felly maen nhw’n fwy tebygol o lawer o golli allan ar warchodaeth allweddol.
Mae hynny’n golygu nad yw 72% o weithwyr yn gymwys ar gyfer hawliau gwaith hanfodol, o gymharu â 27% o bobol dros 25 oed sy’n gweithio.
Cyflog isel
Mae gweithwyr ifainc hefyd yn derbyn llai o gyflog.
Ar y cyfan, mae gweithwyr 16-17 oed yn derbyn £8 yr awr, ac mae’r ffigwr yn codi i £10.90 ar gyfer y rhai rhwng 18-21 oed, o gymharu â £15.83 ar gyfer pob gweithiwr.
Mae hyn yn rhannol oherwydd nad yw’r Cyflog Byw Cenedlaethol, sy’n £10.42 ar hyn o bryd, yn dod i rym hyd nes bod gweithiwr yn 23 oed.
Mae argymhelliad y Comisiwn Cyflog Isel i gynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i £11.44 o fis Ebrill nesaf wedi’i dderbyn, yn ogystal â’i ymestyn i weithwyr 21 a 22 oed, codi’r gyfradd i £8.60 ar gyfer gweithwyr 18-20 oed ac i £6.40 ar gyfer gweithwyr 16 a 17 oed a phrentisiaid.
Daw’r newidiadau hyn yn dilyn pwysau gan undebau ac ymgyrchwyr, ac mae’r TUC yn dweud bod hyn yn gam positif, ond fod rhaid i’r gyfradd uchaf fod ar gael i bawb sy’n gweithio waeth beth yw eu hoedran.
Hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r newidiadau hyn, byddai gweithiwr 20 oed sy’n gwneud yr un swydd ar yr isafswm cyflog yn derbyn £2.93 yn llai yr awr na gweithiwr 23 oed.
Mae gweithwyr BAME hefyd wedi’u bwrw’n galed, gan eu bod nhw’n fwy tebygol o fod ar gytundebau oriau sero na gweithwyr â chroen gwyn.
‘Newid bywydau’
“Mae gormod o weithwyr ifainc yn sownd mewn gwaith ansefydlog, ar gyflog is a heb yr hawliau yn y gweithle mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n eu cymryd yn ganiatol,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC.
“Dydy hynny ddim yn iawn.
“Byddai gwahardd cytundebau oriau sero, rhoi hawliau diwrnod cyntaf i bob gweithiwr yn eu swyddi, a dileu bandiau oedran o’r isafswm cyflog yn newid bywydau gweithwyr iau.
“Byddai’n rhoi cytundeb sefydlog iddyn nhw, fel eu bod nhw’n gwybod faint o oriau fydden nhw’n gweithio bob wythnos.
“Byddai’n atal diswyddo ar fympwy, gan sicrhau bod pob gweithiwr yn cael gwarchodaeth rhag diswyddo annheg o ddiwrnod cynta’r swydd.
“Byddai’n sicrhau bod ganddyn nhw’r hawl i gyflog mamolaeth a thadolaeth pan fyddan nhw’n cael plant.
“A byddai’n rhoi’r cyfle iddyn nhw weithio tuag at ddyfodol gwerthchweil.”