Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd am weld pob disgybl yng Nghymru’n cael cyfle i dreulio wythnos mewn gwersyll awyr agored am ddim.
Fe wnaeth Sam Rowlands, sy’n cynrychioli’r gogledd, gyflwyno Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 29).
Er bod Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, o blaid y syniad mewn egwyddor, dywed na fyddai’n bosib ei ariannu yn sgil diffyg cyllid.
Pwrpas y bil fyddai caniatáu i bob disgybl dreulio o leiaf bedair neu bum noson mewn gwersyll addysg awyr agored, fel gwersylloedd yr Urdd, yn ystod eu hamser yn yr ysgol.
“Mae addysg awyr agored breswyl yn cynnig ystod eang o fuddion corfforol a meddyliol, ynghyd â datblygiad personol a chymdeithasol,” meddai Sam Rowlands.
“Yn anffodus, yn un o bob tair ysgol sydd yn trefnu gwyliau addysgol yn yr awyr agored, mae llai na 75% o ddisgyblion yn cymryd rhan, yn aml yn sgil heriau ariannol.
“Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, dw i wedi cael y pleser o weithio gydag arbenigwyr o’r sector Addysg Awyr Agored i ddod â’r Bil Addysg Awyr Agored Preswyl (Cymru) ymlaen.
“Bydd fy mil yn sefydlu addysg awyr agored preswyl fel rhan greiddiol o addysg a datblygiad personol disgyblion mewn ffordd sy’n cryfhau’r Cwricwlwm i Gymru.”
‘Ddim yn fforddiadwy’
Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Jeremy Miles fod y Cwricwlwm i Gymru yn disgwyl i ysgolion ystyried sut mae dysgu tu allan yn helpu disgyblion.
“Mae’r Llywodraeth yma wedi, a byddan ni’n parhau, i bwysleisio rôl addysg awyr agored ar draws y cwricwlwm,” meddai.
Ym mis Mawrth 2021, cafodd £2m ei roi tuag at gefnogi’r sector yn ystod y pandemig, a dywedodd Jeremy Miles fod hynny’n cydnabod pwysigrwydd eu gwaith.
“Mae mwy y gellir ei wneud, a hoffwn fod yn glir fod y fy nghynnig i’r Aelod yn gynharach eleni i weithio gyda fi ac eraill ar ffyrdd i gryfhau, cefnogi a pharhau i ddatblygu cyfraniad addysg awyr agored breswyl i addysg yng Nghymru a datblygiad ein plant – mae’r cynnig dal i sefyll,” meddai.
“Fodd bynnag, rhaid iddo gyd-fynd â chyfyngiadau’r ariannol y byd yr ydyn ni’n byw ynddo,” meddai wedyn, gan ychwanegu bod cyllid y sector gyhoeddus yn dynn.
“Mae bil sy’n creu’r angen ar gyfer costau gwerth £20m i ysgolion a chynghorau, dydw i ddim yn barod i dorri cyllid rheng flaen ysgolion i ariannu’r ddeddfwriaeth.
“Dydy’r bil hwn ddim er mwyn dangos cefnogaeth gyffredinol tuag at ddysgu awyr agored, fydden ni gyd yn pleidleisio o blaid pe bai dyna’r achos.
“Mae’r bil yn rhoi gofyniad ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ac ariannu addysg awyr agored preswyl, be bynnag fyddai hwnnw ac ar ba bynnag gost. Dydy hynny, yn syml, ddim yn fforddiadwy.”
‘Gwybod be ydy gwerth gwersylloedd’
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi bod yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â’r bil, a byddan nhw’n rhoi tystiolaeth yn y Senedd yr wythnos nesaf, meddai Siân Lewis, y Prif Weithredwr, wrth golwg360.
“Does yna ddim digon o gyfleoedd i blant o gefndiroedd difreintiedig fynychu nid dim ond ein gwersylloedd preswyl ni ond gwersylloedd preswyl ar draws Cymru,” meddai.
“Rydyn ni eisiau gweld mwy o bobol yn cael gwerth allan o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.
“Nid yn unig y mae yna brofiadau gwych o ran preswylio, ond rydyn ni’n gwybod be ydy gwerth y gwersylloedd o ran lles ac iechyd meddwl pobol ifanc, o ran hyder yn y Gymraeg, a gallu mynd yna a gwneud ffrindiau newydd.
“Rydyn ni’n cefnogi’r bil, rydyn ni’n poeni ychydig bach gan fod yr hinsawdd ariannol yn mynd i fod yn dynn ond byddan ni’n parhau i gefnogi dros y blynyddoedd i ddod yn y gobaith y bydd cefnogaeth i’r bil yn yr hirdymor.”
Mae gan yr Urdd gynllun ‘Cyfle i Bawb – Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’, sy’n bwriadu cynnig gwyliau i 250 o blant a phobol ifanc sy’n byw mewn tlodi neu amgylchiadau heriol.
Bob haf ers 2019, mae’r Gronfa wedi galluogi cannoedd o blant a phobol ifanc ddifreintiedig i fwynhau gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd.
Mae’r mudiad wedi cynyddu’r targed ar gyfer 2024, ar ôl derbyn y nifer fwyaf erioed o geisiadau am wyliau haf drwy nawdd y Gronfa yn 2023.