Mae angen cymryd camau brys ar fesuryddion rhagdalu er mwyn “achub bywydau”, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Daw’r rhybudd ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd heddiw (dydd Iau, Tachwedd 30).
Gallai rhagor o gefnogaeth i atal pobol sy’n agored i niwed rhag cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu ynni achub bywydau, yn ôl y Pwyllgor Deisebau.
Mae adroddiad y pwyllgor yn edrych ar y sgandal mesuryddion rhagdalu, lle gwnaeth cwmnïau ynni orfodi miloedd o bobol i gael y dyfeisiau hyn wedi’u gosod yn eu cartrefi ar ôl iddyn nhw fethu â thalu eu biliau’n brydlon.
Roedd llawer o’r dioddefwyr yn agored i niwed, gan gynnwys pobol ag anableddau, pobol oedrannus, a theuluoedd â phlant bach.
Mae’r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i wella’u gwasanaethau cynghori dros y gaeaf, drwy ddarparu cyllid ar gyfer ymgyrch hysbysebu i roi gwybod i bobol ble i fynd am gyngor a chefnogaeth os ydyn nhw’n cael trafferth talu eu biliau.
Cod ymarfer sy’n addas i’r diben?
Ers y sgandal mesuryddion rhagdalu, mae’n ofynnol bellach i gwmnïau ynni ddilyn cod ymarfer sy’n gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu ar gyfer y cwsmeriaid risg uchaf heb fod hynny’n wirfoddol.
Un o brif bryderon y Pwyllgor Deisebau yw nad yw’r cod ymarfer hwn yn mynd yn ddigon pell.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio pobol oedrannus fel rhai sydd dros 65 oed, ond dydy’r cwmnïau ynni ddim yn ystyried bod rhywun yn agored i niwed oni bai eu bod nhw dros 75 oed.
Mae’r un pryderon yn berthnasol i blant ifanc, sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed os ydyn nhw o dan ddwy flwydd oed, tra bydd gan lawer o aelwydydd blant cyn-ysgol sy’n hŷn na hynny.
“Y gaeaf diwethaf, roedd yn ofnadwy clywed am gwmnïau ynni yn mynd i gartrefi pobol sy’n agored i niwed ac yn gosod mesuryddion rhagdalu drwy rym,” meddai Jack Sargeant, Aelod Llafur o’r Senedd a chadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
“Ers y sgandal hwnnw, gwnaed ymdrechion i wella pethau, ond nid yw hyn wedi mynd yn ddigon pell.
“Er gwaetha’r cod ymddygiad newydd, gorfodol, bydd mesuryddion rhagdalu yn cael eu gosod drwy rym yng nghartrefi llawer o bobol sy’n agored i niwed yng Nghymru y gaeaf hwn gan nad ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf llym.
“Mae’n hynod siomedig nad yw’r cwmnïau ynni wedi mabwysiadu dehongliad mwy realistig o fod yn agored i niwed.
“Rydym yn annog y rheoleiddiwr ynni Ofgem i fonitro’r cod ymarfer hwn ac i newid pethau os nad yw’n gweithio.”
Tariff cymdeithasol newydd
Gyda thua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan, mae adroddiad y Pwyllgor Deisebau hefyd yn galw am dariff cymdeithasol newydd i bobol sy’n agored i niwed, er mwyn sicrhau mwy o gymorth i’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
Biliau ynni gostyngol yw tariffau cymdeithasol.
Maen nhw ar gael i bobol sy’n agored i niwed i’w galluogi i barhau i wresogi eu cartrefi heb dalu’r pris llawn.
“Er bod terfyn i’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan fod hwn yn fater hwn a gadwyd yn ôl, mae’r Pwyllgor yn ei hannog i ddarllen yr adroddiad hwn a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac Ofgem ar ystod o faterion,” meddai Jack Sargeant.
“Wrth gwrs, mae gwella gwasanaethau cynghori yng Nghymru a sicrhau bod pobol yn gwybod ble i droi am help os ydyn nhw’n cael trafferth yn rhywbeth y gallai – ac y dylai – Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud ar unwaith.
“Gall cael mynediad at wres a golau fod yn fater o fywyd a marwolaeth.
“Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag Ofgem, i ddarllen yr adroddiad hwn ac i roi ein hargymhellion ar waith cyn gynted â phosibl.
“Gallai hyn achub bywydau.”