Mae mam o Wrecsam sydd â phrofiad o blant yn methu cysgu yn y nos yn defnyddio dulliau holistaidd i helpu plant eraill, gan ddefnyddio dulliau sy’n garedig iddyn nhw.

Mae gan Rhian Mills, sy’n fam i ddau o blant, brofiad o fagu rhai bach sy’n methu cysgu, ac mae hi bellach yn ymgynghorydd cwsg efo’i busnes ei hun, Rested Mama.

“Rwy’n meddwl bod o’n helpu oherwydd fy mod yn gwybod pa mor ddrwg ydi o,” meddai wrth golwg360.

Wrth weithio ar-lein a thros y ffôn i helpu teuluoedd ar hyd a lled y wlad, mae hi’n defnyddio dulliau holistig, ac nid dulliau rheoli llefain (controlled crying) ar fabanod a phlant hyd at saith oed.

Does dim rhaid dioddef nosweithiau di-gwsg a phopeth sy’n dod yn sgil hynny, meddai, ac mae yna atebion sy’n garedig i’r plentyn.

“Mae’n bwysig i’r rhieni wybod bo nhw ddim yn gorfod sdryglo,” meddai.

“Mae’r ffordd rwy’n gweithio yn gentle, dydw i ddim yn defnyddio controlled crying.

“Dw i ddim yn gadael i’r plant neu fabis fod yn crïo ar eu pennau eu hunain.

“Rwy’n meddwl bod y rhieni yn meddwl ‘Dw i ddim eisiau gadael iddyn nhw grïo, felly rwy’n gorfod parhau fel hyn, yn y sleep deprived state‘.

Ond mae yna dir canol, yn ôl Rhian Mills.

“Mae yna bethau fedri di wneud i helpu’u cwsg nhw,” meddai.

“Mae’n neis gadael i’r rhieni wybod bod yna opsiynau.”

Gafael mewn babi sy’n methu cysgu

Mae hi’n edrych ar nifer o ffactorau.

Yn gyntaf, mae’n arferol i afael mewn babi os nad yw’n gallu cysgu.

“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig dysgu i rieni beth sy’n normal i ddechrau efo,” meddai.

“Mae yna lawer o bobol allan yna sydd yn dweud, unwaith mae’r babi yn dri mis ddylsen nhw fod yn cysgu drwodd.

“Mae yna rai pobol yn dweud ddylsa chdi ddim dal y babi trwy’r adeg, achos ti’n dysgu habits drwg iddyn nhw.

“Mae o’n hollol normal bod babis angen ni pan maen nhw’n fach.

“Maen nhw angen bod yn agos at y rhiant, ac mae’n normal iddyn nhw fod yn deffro lot yn y nos.

“Mae hynny’n un o’r pethau pwysig, dysgu’r rhieni beth sydd yn normal.

“Weithiau, maen nhw’n teimlo’n ddrwg. ‘Pam dydy fy mabi ddim yn cysgu?’

Actually, mae o’n beth normal bo nhw ddim yn cysgu gyda’r nos.”

Beth sy’n arferol yn ystod y dydd?

Yn ail mae hi’n edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn arferol yn ystod y dydd.

“Yr ail beth rwy’n edrych ar yw beth sy’n digwydd yn ystod y dydd.

“Dydy o ddim i gyd am y nos.

“Rwy’n edrych ar naps, yn enwedig i fabis bach sy’n cael llawer o naps – edrych ar yr amseru, tsiecio bo nhw ddim wedi gorflino.

“Rwy’n edrych ar ymarfer corff ac awyr iach, yn enwedig efo babis hŷn, neu toddlers, neu blant ysgol.

“Mae’n bwysig bo nhw’n cael digon o awyr iach ac ymarfer corff i’w helpu nhw i gysgu.

“Rwy’n edrych ar ddiet a mewnbwn synhwyraeth ac amser bondio gyda rhieni.

“Mae’r rhain i gyd yn bethau all effeithio ar gwsg yn ystod y nos.”

Beth sy’n arferol gyda’r nos?

Yn drydydd, mae hi’n edrych ar yr hyn sy’n arferol gyda’r nos.

“Felly’r bedtime routine, gwneud yn siŵr bo nhw ddim yn gwylio sgrîns rhy agos i gwely, gwneud yn siŵr bo nhw’n ymlacio cyn gwely,” meddai.

“Os mae rhywun yn stressed, mae’r un peth i oedolion a phlant.

“Os mae rhywun yn stressed, mae’n mynd yn anodd mynd i gysgu, mae’n bwysig bo nhw’n cael y routine cyn gwely lle maen nhw’n ymlacio, weindio lawr.

“Rwy’n edrych ar yr amgylchfyd cywir yn yr ystafell wely, gwneud yn siŵr bod y tymheredd yn iawn, bod o’n dywyll.

“Weithiau, mae rhai babis yn hoffi sŵn yn y cefndir, sy’n eu helpu nhw i fynd i gysgu.

“Rwy’n edrych ar sut maen nhw’n setlo i gysgu.

“Maen nhw’n cael eu bwydo i gysgu, maen nhw’n cael eu dal i gysgu. `

“Weithiau, mae hynny’n golygu eu bod nhw angen yr help yna pan yn deffro, i fynd i gysgu yn y nos.

“Rwy’n edrych ar beth mae’r rhieni yn gwneud pan maen nhw’n deffro’r nos.

“Weithiau rydym yn newid y response yna.”

Heriau cysgu gyda’i meibion

Oherwydd profiad personol ag un o’i meibion yn methu cysgu, mae Rhian Mills wedi gwella’i dealltwriaeth o ddiffyg cwsg a’i effaith ar rieni.

“Yn bendant, mae cael plant fy hun wedi helpu fi i wneud hyn yn well,” meddai.

“Roedd fy ail fab yn cysgu’n ofnadwy.

“Pan oedd yn fach, roedd yn deffro bob awr.

“Roedd o jyst yn rili, rili anodd.

“Ti ddim yn gallu ffocysu’r un peth yn y dydd, mae’n gwneud i ti deimlo’n reit isel.

“Rwy’n meddwl bod o’n helpu oherwydd fy mod yn gwybod pa mor ddrwg ydi o.

“Rwy’n gwybod sut mae’n teimlo, mae’n fy rhoi mewn sefyllfa dda i helpu teuluoedd eraill.

“Maen nhw’n gallu dod ata’ i a gwybod bo fi wedi bod yna fy hun.

“Mae’r hynaf yn wyth rŵan, rwy’ wedi bod trwy’r cyfnodau yna.

“Dydy o ddim yn fater o wneud quick fix, ac wedyn maen nhw’n cysgu’n grêt wedyn am byth.

“Mae’n normal i gwsg fynd fyny a lawr fel mae pethau’n newid.

“Rwy’ wedi cael y profiad o ddelio efo’r ups and downs.

“Mae yna lawer o bethau sy’n gallu effeithio ar gwsg.”

Cerdded yn eich cwsg

Problem arall sy’n gallu codi weithiau yw fod plant yn cerdded yn eu cwsg.

“Mae fy mhlentyn hynaf yn cerdded yn ei gwsg os ydi o wedi gorflino,” meddai.

“Rwy’n gwneud o fy hun, wel dydw i ddim ar y funud ond roeddwn i pan oeddwn ni’n fach.

“Mae o’n hereditary.

“Os mae wedi gorflino, mae’n gwneud hynny felly rydym yn gwybod fod angen cadw ar ben ei gwsg.

“Mae cerdded [yn eich cwsg] yn gallu bod yn beryg.

“Mae angen gwneud yn siŵr bod bob dim yn saff, y stafell wely, fel dydyn nhw methu gwneud dim byd rhy beryglus.

“Mae angen bod yn aware.

“Pan oedd yr hynaf yn ei wneud, roeddem yn disgwyl allan amdano fo mewn ffordd, fel dy fod yn gallu dal o reit fuan a cherdded o ’nôl i’r ystafell wely.

“Mae’r ‘fenga’n gallu cael night terrors.

“Rydym wedi byw trwy gwsg y ddau’n cael ei ‘styrbio weithiau.

“Mae’r profiad yna sydd gennyf i yn dda iawn i helpu rhieni eraill efo pethau tebyg.”

Gweithio’n rhithiol

Gyda Rhian Mills yn gweithio’n rhithiol, mae hi wedi gweithio â phobol o bedwar ban byd, ac mae’n dweud ei fod yn gyfleus oherwydd ei bod hi’n gallu bod yno i rieni ar unrhyw adeg.

“Mae gweithio ar-lein ac ar y ffôn yn ffordd dda o weithio, oherwydd fy mod yn gallu gweithio efo rhywun yn rhywle,” meddai.

“Rwy’ wedi gweithio efo teulu o America, ac un o Saudi Arabia.

“Dydy o ddim dim ond yn deuluoedd yng Nghymru.

“Rwy’n meddwl ei fod yn dda, oherwydd mae rhywun yn gallu bod mewn cyswllt unrhyw adeg.

“Rwy’n defnyddio Whatsapp fel arfer gyda fy nghleientiaid.

“Gallan nhw fod mewn cysylltiad efo fi yn y dydd neu yn y nos.

“Mae’n ffordd dda iddyn nhw gael yr ymateb yna gennyf i yn reit sydyn i’w helpu nhw ar eu ffordd.”