Mae angen cael gwared ar rwystrau sy’n atal pobol ag anableddau rhag cael bathodynnau glas ar gyfer parcio, yn ôl un o Aelodau’r Senedd yn y gogledd.
Yn ôl Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu ag e’n dweud bod eu ceisiadau am fathodynnau glas wedi cael eu gwrthod gan nad ydyn nhw’n cyrraedd y meini prawf.
Dywedodd un o’i etholwyr, sydd am aros yn ddienw, wrth golwg360 ei fod yn teimlo’n “ddiwerth” gan ei fod wedi cael ei “adael mewn limbo” gan Gyngor Sir Conwy.
Mae’r dyn, sydd yn ei 70au canol, yn cael trafferth cerdded, â stenosis – cyflwr sy’n effeithio ar yr asgwrn cefn – ac yn aros am glun newydd.
Fodd bynnag, ar ôl i’w gais gwreiddiol gael ei gwestiynu gan yr awdurdod lleol tua blwyddyn yn ôl, dywedwyd wrtho am gysylltu ag asiantaeth arall a llenwi rhagor o ffurflenni er mwyn i’w achos gael ei asesu ymhellach.
“Tua deuddeg mis yn ôl fe wnes i lenwi’r ffurflen gais ar gyfer cael bathodyn glas, ei yrru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac fe wnaethon nhw ateb yn dweud ‘Ddim yn gwybod os fedrwn ni wneud unrhyw beth neu ddim, rydych chi angen cysylltu ag asiantaeth’,” meddai.
“Ynddo roeddwn i wedi nodi’r trafferthion roeddwn i’n eu cael yn cerdded, ac fe wnes i ddweud fy mod i’n mynd i [Ysbyty] Gobowen [yn aml]. Wnaethon nhw ddim cymryd dim sylw o hyn, a dweud nad oedd llawer oedden nhw’n gallu ei wneud ar sail y wybodaeth wnes i roi iddyn nhw.
“Roeddwn i’n meddwl bod hynny braidd yn rhyfedd.|
Ar ôl cael gwybod bod gofyn iddo lenwi ffurflen arall i’r asiantaeth ac y byddai’n rhaid iddo, o bosib, fynd i’w gweld nhw yn Swydd Amwythig, ceisiodd wrthwynebu penderfyniad Cyngor Conwy a chysylltu efo Mark Isherwood.
“Fe wnaeth [Cyngor Conwy] benderfynu cysylltu â’r asiantaeth, heb ddweud wrtha i, a thrafod fy achos.
“Eu cyfiawnhad nhw oedd eu bod nhw eisiau barn rhywun arall, a’u bod nhw heb roi fy enw i’r asiantaeth, ond roedden nhw’n trafod fy achos, ac yn gwybod mod i ddim wir eisiau mynd lawr y trywydd hwnnw.
“Fe wnaeth yr asiantaeth ddweud wrth Gyngor Conwy mewn e-bost eu bod nhw’n credu fy mod i’n gymwys ar gyfer bathodyn glas hyd yn oed petai hynny ond am gyfnod cyfyngedig.”
‘Teimlo’n ddiwerth’
Dydy’r dyn dal heb gael bathodyn glas, ac er nad ydy Cyngor Conwy wedi’i wrthod yn gyfan gwbl, mae’n teimlo nad oedd neb yn yr awdurdod eisiau siarad ag o am y mater.
“Maen nhw wedi fy ngadael mewn limbo. Maen nhw’n gallu mynd at yr asiantaeth i drafod fy achos heb unrhyw broblem, heb i fi wybod,” meddai.
“Mae’n gwneud i chi deimlo’n ddiwerth, fel nad ydy hi o bwys o gwbl o safbwynt Conwy.
“Mae ganddyn nhw’r holl wybodaeth, maen nhw’n gwybod be ydy’r sefyllfa, ac maen nhw’n gwybod ers yr hydref fy mod i ar restr aros am glun newydd.
“Dw i yn cael trafferth cerdded o gwmpas, mae’n gwaethygu. Mae yna boen, a rhwng fy stenosis a fy nghlun mae cerdded yn andros o anodd.
“Dw i wedi cyrraedd y pwynt rŵan, es i i’r parc siopa lleol ac fel arfer dw i’n parcio tu allan a cherdded i’r siop ond cefais i drafferth cerdded mewn yn ddiweddar. Os nad oes gen i ffon, a hyd yn oed efo’r ffon, dw i’n cael trafferth.
“Dw i’n gorfod stopio’n gyson, mae fy nghoesau’n stopio gweithio.
“Ond fysa Conwy ddim yn gallu poeni llai. Dw i ddim yn meddwl ei fod yn rhywbeth personol, dw i’n meddwl eu bod nhw fel hyn efo pawb.”
‘Gofid mawr’
Wrth holi Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru yn y Senedd fis diwethaf, dywedodd Mark Isherwood, sy’n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar anableddau:
“Mae sawl etholwr wedi cysylltu efo fi, gydag amrywiaeth o gyflyrau corfforol a niwro-ddatblygiadol, ac mae’r Awdurdodau Lleol wedi gwrthod eu ceisiadau am Fathodynnau Glas ar gyfer parcio neu wedi gwrthod eu hadnewyddu, gan ddyfynnu meini prawf Llywodraeth Cymru,” meddai Mark Isherwood, cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar anableddau, wrth holi Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, yn y Senedd fis diwethaf.
“Mae hyn yn nodi, ymysg pethau eraill, ‘Mae penderfyniad awdurdod lleol ar gymhwysedd yn un terfynol. Nid oes proses apelio’ – gan achosi gofid mawr i ymgeiswyr sydd wedi gofyn i fi ymyrryd i wneud i’r awdurdodau lleol ailystyried eu ceisiadau.”
Wrth ymateb, diolchodd Jane Hutt “am y dystiolaeth ar y rhaglen Bathodynnau Glas, a’r adborth”.
“Dydy’r rhaglen ddim yn fy mhortffolio, ond mae hyn yn ymwneud â mynediad at wasanaethau,” meddai.
“Byddaf yn mynd â hynny’n ôl ac yn edrych ar y materion hyn.”
‘Dilyn meini prawf’
Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae Llywodraeth Cymru yn darparu meini prawf cymhwyster ar gyfer bathodyn glas dros dro. Rydym yn dilyn y meini prawf hwn yn agos i sicrhau bod ein dulliau yn gyson ar gyfer holl ymgeiswyr.
“Mae’r adran ar feini prawf cymhwyster yn glir bod angen cyngor ar y graddau mae cyflwr/cyflyrau meddygol yr ymgeisydd yn effeithio ar eu symudedd. Argymhellir gofyn am y cyngor hwn gan weithwyr proffesiynol iechyd sy’n arbenigo mewn symudedd gweithredol, fel therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion.
“Dyma’r broses mae ein tîm Bathodyn Glas yn ei ddilyn pan fyddant yn derbyn cais o dan y meini prawf hwn, a gynhelir gan Wasanaethau Therapi Galwedigaethol Able-2 Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth asesu therapi galwedigaethol ychwanegol ar gyfer y cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru.
“Rydym wedi anfon y ffurflen atgyfeirio Able-2 at y gŵr hwn ac wedi cynnig cefnogaeth iddo lenwi’r ffurflen ar sawl achlysur. Mae’n ddrwg iawn gennym ddeall bod yr ymgeisydd hwn wedi profi anhawster a gofid.
“Fodd bynnag, dilynwyd y drefn gywir gan swyddogion y Cyngor yn ystod pob cam o’r broses.”