Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod “diffyg ystyriaeth Rishi Sunak o borthladdoedd Cymru’n adrodd cyfrolau”.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig awgrymu bod dirywiad masnach trwy Gaergybi ar ôl Brexit yn anochel.

“Roedd hi bob amser am fod yn wir ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd y byddai anfon pethau i’r Undeb Ewropeaidd o’r Deyrnas Unedig yn wahanol,” meddai wrth ymateb i’w chwestiwn am effaith andwyol rheolau masnachu ôl-Brexit ar fasnachu rhwng Caergybi a Dulyn.

Yn ei ddatganiad yn San Steffan neithiwr (nos Lun, Chwefror 27), dywedodd Rishi Sunak fod Protocol Gogledd Iwerddon “yn gosod yr un math o faich ar deithiau morol o Cairnryan i Larne â’r rheiny rhwng Caergybi a Dulyn”.

Tynnodd Liz Saville Roberts sylw at y ffaith fod 30% o fasnach rhwng Caergybi a Dulyn cyn Brexit yn mynd yn ei flaen i Ogledd Iwerddon, a gofynnodd i Rishi Sunak a fyddai’r polisi’n rhoi porthladdoedd Cymru dan anfantais drwy ffurfioli trefniant y lôn werdd ar gyfer nwyddau’n teithio’n uniongyrchol i Ogledd Iwerddon.

Mae Liz Saville Roberts yn annog Rishi Sunak i gydnabod fod polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach yn “cymell cludwyr i osgoi Porthladd Caergybi ac i ddarparu cyfleoedd economaidd i wrthbwyso’r difrod hwnnw”.

Gofyn am eglurhad

“Wrth gwrs, mae llawer i’w groesawu yn y datganiad heddiw, ond rhaid i mi bwyso’r Prif Weinidog ar bwynt penodol,” meddai Liz Savile Roberts.

“Yn ei ddatganiad, fe soniodd yn ddidaro am faich ar gludo o Gaergybi a Dulyn.

“Methodd â sôn, cyn-Brexit, fod 30% o’r holl fasnach drwy’r porthladd wedi mynd ymlaen i Ogledd Iwerddon o Ddulyn; fod masnach yn ailgyfeirio wrth i ni siarad, mewn amser go iawn, gan waethygu effaith Brexit sydd eisoes yn ddinistriol ar borthladd Caergybi.

“All y Prif Weinidog egluro a fydd y cytundeb newydd hwn yn sicrhau masnach rhwydd rhwng Gogledd Iwerddon a Chymru drwy Ddulyn?

“Os na, a wnaiff gydnabod y bydd lonydd gwyrdd yn rhoi porthladdoedd Cymru dan anfantais?”

Ymateb Rishi Sunak

“Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod nwyddau’n llifo’n rhydd o fewn ein Teyrnas Unedig,” meddai Rishi Sunak wrth ateb.

“Dyna’r hyn mae’r lôn werdd yno i’w wneud.

“Roedd hi bob amser am fod yn wir ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd y byddai anfon pethau i’r Undeb Ewropeaidd o’r Deyrnas Unedig yn wahanol.

“Yr hyn yw’r cytundeb hwn yw blaenoriaethu masnach o fewn marchnad fewnol y Deyrnas Unedig, a dyna’n union mae’r lôn werdd rydym wedi’i chyflwyno drwy’r fframwaith yma’n ei wneud.”

‘Dim dealltwriaeth na diddordeb’

Wrth siarad ar ôl y drafodaeth yn San Steffan, dywedodd Liz Saville Roberts fod “diffyg ystyriaeth y Prif Weinidog o borthladdoedd Cymru’n adrodd cyfrolau”.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd heb ddealltwriaeth o’r cyfanswm mawr o fasnach fewnol rhwng y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon oedd yn mynd trwy Ddulyn cyn Brexit, wedi cefnu ar Gaergybi,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn araf wrth ymateb i’r problemau hyn.

“Dylai’r Prif Weinidog [Rishi Sunak] o leiaf gydnabod fod polisi’r Llywodraeth bellach yn cymell cludwyr i osgoi Porthladd Caergybi ac i ddarparu cyfleoedd economaidd i wrthbwyso’r difrod hwnnw.”