Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn cael eu hannog i adolygu ffi cyfnewid LINK, sy’n talu am gost gweithredu peiriannau twll yn y wal.

Daw’r alwad gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth i nifer gynyddol o weithredwyr wynebu codi tâl ar gwsmeriaid i godi arian parod.

Mae data ACS (Cymdeithas Siopau Nwyddau Cyfleus) yn dangos bod gostyngiad o 30% yn nifer y peiriannau arian parod rhad ac am ddim yn ei hetholaeth yn Nwyfor Meirionnydd, gydag 16 yn llai nag yn 2018.

Cyfanswm yr holl beiriannau ATM yn yr etholaeth bellach yw 56 – deuddeg yn llai nag yn 2018 – sy’n cynrychioli toriad o 18%.

Mae cyfanswm y peiriannau arian parod rhad ac am ddim yn y Deyrnas Unedig bellach yn 37,836 – i lawr o 53,000 yn 2018.

Cefnu ar gymunedau

Bydd y nifer yn parhau i ostwng yng nghefn gwlad oni bai bod y ffi cyfnewid yn codi i lefel sy’n cyfateb i’r gost o reoli a chynnal peiriannau rhad ac am ddim, yn ôl Liz Saville Roberts.

“Mae’n adlewyrchiad ddamniol o’r Llywodraeth Dorïaidd fod darparwyr ATM wedi’u rhoi yn y fath sefyllfa fel nad oes ganddyn nhw bellach unrhyw ddewis ond dechrau trosi eu peiriannau arian parod rhad ac am ddim i fodel talu-i-ddefnyddio,” meddai.

“Mae fy etholaeth wedi gweld gostyngiad o 30% yn nifer y peiriannau arian parod rhad ac am ddim dros y pum mlynedd diwethaf.

“Mae hyn yn cael ei yrru’n bennaf gan fanciau’r stryd fawr yn cefnu ar ein cymunedau, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn cwsmeriaid.

“Mae yna hefyd fater y ffi cyfnewid, a osodwyd gan LINK ac y telir amdano gan fanciau i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â chynnal peiriannau ATM rhad ac am ddim.

“Mae adwerthwyr yn cael eu hysbysu fwyfwy gan weithredwyr ATM nad oes ganddyn nhw unrhyw opsiwn arall ond codi tâl ar gwsmeriaid i godi arian parod, oherwydd nad yw ffi’r cyfnewid yn codi yn unol â chostau cynnal a chadw peiriannau ATM.

“Fel sy’n wir bob amser, y cymunedau tlotaf a’r bobol fwyaf bregus sy’n debygol o gael eu heffeithio fwyaf o ganlyniad i’r gostyngiad hwn mewn mynediad i arian parod.

“Tra bod arferion cwsmeriaid yn newid, mae cymunedau gwledig yn dal i fod angen mynediad at arian parod, a bydd colli mwy fyth o beiriannau ATM rhad ac am ddim yn ergyd fawr i’n cymunedau.

“Er gwaethaf yr effaith uniongyrchol ar gwsmeriaid, mae busnesau annibynnol hefyd yn gweld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr gan na allant bellach ddarparu arian parod am ddim yn eu siopau.

“Mae’r Llywodraeth wedi’i rhwymo gan ddeddfwriaeth i sicrhau bod mynediad am ddim i arian parod yn cael ei ddiogelu.

“Dylen nhw wrando ar y rhybuddion sy’n dod gan arbenigwyr yn y diwydiant, busnesau a’r cyhoedd ac adolygu’r ffi cyfnewid fel mater o frys.

“Ni all ein cymunedau fforddio colli mwy o beiriannau arian.”