Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y ‘fframwaith gwella’ i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n parhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, sydd wedi cyhoeddi’r fframwaith gwella, gan ddweud y bydd yn rhaid i’r Bwrdd gwrdd â cherrig milltir ac ymateb i feini prawf.

Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth a llywodraethu o fewn y Bwrdd. Yn sgil hyn, penodwyd Gary Doherty yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr, ac mae disgwyl iddo ddechrau ar ei swydd yn llawn ar Chwefror 29.

“Fe fydd yn darparu arweinyddiaeth hirdymor i gymryd y camau gweithredu angenrheidiol a pharhau â’r broses o ail-feithrin y berthynas â’r staff, y cyhoedd a rhan-ddeiliaid, ac ennyn eu hyder unwaith yn rhagor,” meddai Vaughan Gething.

Mae’r meysydd eraill ar gyfer gwelliant yn cynnwys gwell ymgysylltu rhwng y cyhoedd â’r staff, datblygu darpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl, gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau y tu allan i oriau.

‘Cynnydd’

Fe esboniodd Vaughan Gething fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi gwneud cynnydd gan gyfeirio at waith Simon Dean, y Prif Weithredwr Dros Dro.

“Hoffwn ddiolch i Simon Dean am ei arweinyddiaeth yn ystod y misoedd cyntaf o dan fesurau arbennig ac am ei waith i sefydlogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”

Fe fydd yn trosglwyddo’r awenau i Gary Doherty, ac yn dychwelyd i’w rôl barhaol fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru.

Mae disgwyl i’r Bwrdd Iechyd ddarparu tystiolaeth o welliant erbyn mis Mai.

 ‘Mesurau arbennig’

Mae’r ‘fframwaith gwella’ wedi’u datblygu ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, y Bwrdd Iechyd a thîm o ymgynghorwyr sydd wedi gweithio â’r Bwrdd yn ystod y misoedd cyntaf o fesurau arbennig.

Mae’n gysyniad newydd i’r GIG yng Nghymru, ac mae wedi’i seilio ar fesurau arbennig sydd wedi cyflwyno’n llwyddiannus o fewn sefydliadau’r GIG yn Lloegr.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu adnoddau ychwanegol a chymorth drwy’r tîm gwella ac yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tra bo trefniadau’r mesurau arbennig yn parhau.