Nicola Sturgeon
Gallai’r Alban golli biliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd nesaf o dan gynlluniau’r Trysorlys ar gyfer datganoli pwerau newydd, yn ôl y Prif Weinidog, Nicola Sturgeon.
Mae arweinydd Holyrood wedi beirniadu cynnig Llywodraeth y DU dros y cytundebau ariannol sy’n gysylltiedig â Mesur yr Alban, a hynny cyn cynnal trafodaethau ar y pwnc yn Llundain.
Bydd y Mesur, a ddaeth o argymhellion y Comisiwn Smith yn dilyn y refferendwm, yn dod â phwerau newydd dros drethi a materion lles i’r Senedd yn yr Alban, ond does dim cytundeb eto rhwng llywodraethau’r Alban a’r DU dros y fframwaith ariannol.
Byddai cytundeb yn nodi’r ffordd bydd grant bloc gan y Trysorlys yn cael ei ddiwygio i ystyried y pwerau treth newydd.
Mae Ysgrifennydd Ariannol yr Alban, John Swinney yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands am gyfres arall o drafodaethau.
Daw’r trafodaethau ar yr un cyfnod pan fo Llywodraeth Prydain yn ceisio cyflwyno Drafft Mesur Cymru.
Mae wedi ennyn cryn dipyn o feirniadaeth gan arbenigwyr a gwleidyddion, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, sy’n dweud y bydd yn “lleihau pwerau” Cymru.
Lleihau cyllideb yr Alban o ‘biliynau’
“O’r hyn dwi wedi clywed gan y Trysorlys, byddai’r cynigion gwreiddiol a’r hyn sydd wedi’i gyflwyno dros y dyddiau diwethaf yn dal i leihau cyllideb yr Alban o biliynau o bunnoedd o bosib dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Nicola Sturgeon ar BBC Radio Scotland.
“Dwi eisiau pwerau newydd, dydy e ddim yn gyfrinach y byddai’n well gennyf gael llawer mwy o bwerau, ond dwi am gael y pwerau hyn fel ein bod ni’n gallu eu defnyddio. Felly dwi am gael cytundeb a byddwn yn parhau i weithio’n galed iawn i gyflawni hynny.”
Pwysleisiodd nad oedd yn gofyn am “ffafr arbennig” i’r Alban, ond ei bod yn gofyn am “fargen deg”.
Yr Alban – y senedd ‘mwyaf pwerus’ o’i math
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae Llywodraeth y DU yn gwbl ymrwymedig i roi’r cytundeb Smith ar waith yn llawn. Bydd y pwerau sy’n cael eu datganoli i Senedd yr Alban yn ei wneud y senedd ddatganoledig fwyaf pwerus yn y byd.
“O’r cychwyn, mae ein safbwynt ar y fframwaith ariannol wedi bod yn glir – rydym yn barod i gael cytundeb sy’n deg i’r Alban ac yn deg i weddill y DU.”