Sean Topping-Morris
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai dyn 33 oed o Bentyrch ger Caerdydd a fu farw mewn gwrthdrawiad car dros y penwythnos.

Fe fu farw Sean Topping-Morris yn dilyn gwrthdrawiad a ddigwyddodd yn Nhonysguboriau tua 2yb ddydd Sadwrn, Ionawr 30.

Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo gan ddweud, “fel teulu, rydym wedi’n tristau am golled ein mab annwyl. Fe fydd Sean yn cael ei golli’n fawr gan ei Dad a’i Fam, ei chwiorydd Emma ac Amy-Rose a’i frawd Barry.

“Roedd Sean yn dad cariadus ac ymroddgar i’w dri o blant, Courtney 8 oed, Harry, 6 oed ac Oscar, 4 oed.”

 

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng fan Vauxhall Vivaro gwyn yn teithio i’r de ar briffordd y A4119.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng mynedfa Parc Manwerthu Tonysguboriau, neu gylchfan Matalan, fel y caiff ei adnabod yn lleol.

Dylai unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Thîm Plismona’r Ffyrdd y Dwyrain ar 101, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600033099.