Mae tua 800,000 o bobol wedi diflannu o’r rhestr etholiadol ers cyflwyno’r system newydd o gofrestru unigol, yn ôl y blaid Lafur.

Mae 70,000 o’r rhain yng Nghymru, gyda’r to iau yn cael ei effeithio yn bennaf, yn dilyn awgrymiadau bod rhai dinasoedd prifysgol wedi gweld gostyngiad o 13% yn eu rhestrau etholiadol.

Roedd Llywodraeth y DU wedi amddiffyn y penderfyniad i newid y gofrestr i system o gofrestru unigol ym mis Mai eleni, gan ddweud y byddai’n lleihau twyll etholiadol.

Ond, mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan lefarydd Llafur dros bobol ifanc a chofrestru pleidleiswyr, Gloria De Piero, a ddywedodd: “Mae tua 800,000 o bobol wedi diflannu o’r gofrestr etholiadol.

“Anwybyddodd y Llywodraeth rhybuddion annibynnol dros beidio â brysio i newid y system, ond mae bellach yn ymddangos mai myfyrwyr sy’n dioddef o’u newidiadau byrbwyll.”

Mae Gloria De Piero wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am gyflwyno canllawiau i brifysgolion i’w cefnogi i helpu myfyrwyr i gofrestru.

Dywedodd fod prifysgolion fel Caerdydd a Chaerlŷr wedi cael eu heffeithio yn enwedig.

Ymgyrch cofrestru pleidleiswyr

Mae’r wythnos hon yn nodi Ymgyrch Cenedlaethol elusen Bite the Ballot i Gofrestru Pleidleiswyr, er mwyn ceisio annog pobol, yn enwedig pobol ifanc i gofrestru i bleidleisio.

Wrth ymuno â’r ymgyrch, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw ar bobol Cymru i gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai eleni.

“Ar Fai 5, bydd gan bobl y cyfle i ddewis pwy fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru mewn etholiad Cynulliad allweddol,” meddai.

“Mae pobl ifanc yn enwedig yn aml yn teimlo nad oes ganddynt lais gyda dim ond 43% o bobl ifanc 18-24 oed yn pleidleisio yn Etholiad Cyffredinol 2015.

“Gyda phynciau perthnasol megis swyddi ac addysg yn uchel ar yr agenda yn etholiad y Cynulliad, rwy’n annog holl bobl ifanc Cymru i ddweud eu dweud ar Fai 5.”

Ychwanegodd Oliver Sidorczuk, Cydlynydd Polisi’r elusen Bite the Ballot: “Amcan yr ymgyrch eleni yw ysbrydoli cynifer o fudiadau cymunedol, lleol a llawr gwlad a phosib i gysylltu gyda’r rhai sydd ‘bellaf o wleidyddiaeth’.

“Rydym yn falch o gydweithio gydag Ieuenctid Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ac NUT Cymru i sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru #GymrydGrym yn ystod ‘NVRD’ cyn yr etholiadau allweddol fis Mai – a refferendwm UE tebygol yn ddiweddarach eleni.”

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein neu drwy’r post.