Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw ar ôl i gorff babi gael ei ganfod ger ystâd ddiwydiannol yng Nghasnewydd.
Fe gafodd plismyn eu galw toc wedi 2yp ddydd Gwener i Barc Imperial, Coedcernyw.
Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod nhw’n trin y farwolaeth fel un nad oes posib ei hesbonio ar hyn o bryd.
Maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd a gwybodaeth i ffonio 101 gan nodi’r cyfeirnod 207 29/01/16.