Mae grŵp o arbenigwyr wedi argymell bod gwleidyddion Bae Caerdydd a San Steffan yn gwrthod Mesur Drafft Cymru os na fydd newidiadau mawr yn cael eu gwneud.
Yn yr adolygiad annibynnol, mae’r awduron yn rhybuddio y bydd y system o “gadw pwerau yn ôl” yn gallu arwain at gytundeb tymor byr arall, ac er mwyn bod yn “effeithiol” mae angen i’r mesur “sicrhau pecyn datganoli cyson i Gymru”. Dydy Mesur Drafft Cymru ddim yn cynnig hynny, yn ôl yr arbenigwyr.
Dywed bod y drafft yn rhy gymhleth ac yn gweithio “er budd” adrannau Whitehall. Gall hefyd arwain at nifer o heriau cyfreithiol yn sgil amwysedd o ba lywodraeth sy’n gyfrifol am beth.
Mae’r adroddiad, ‘Her a Chyfle: Mesur Drafft Cymru 2015’, wedi’i gomisiynu gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Uned Gyfansoddiadol o Goleg Prifysgol Llundain.
Mae Mesur Drafft Cymru, a gafodd ei gyhoeddi gan Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, ym mis Hydref 2015, yn cynnig mwy o rym dros feysydd etholiadau, trafnidiaeth ac ynni.
Ond yn ôl yr arbenigwyr, dydy’r mesur ddim yn gwneud yr “hyn oedd wedi’i addo”.
“Yn rhy aml, mae amcanion polisi Ysgrifennydd Cymru o setliad datganoli cryfach, mwy eglur, tecach a mwy cadarn yn cael eu rhwystro gan ddarpariaeth sy’n gyfyngedig, anghyfiawn ac yn anystyriol yn gyfansoddiadol,” meddai’r Athro Richard Rawlings o Goleg Prifysgol Llundain.
Oedi’r broses
Mae’r adroddiad yn gosod cyfres o argymhellion dros newid y ddeddfwriaeth er mwyn “darparu model datganoli cadw pwerau sefydledig i Gymru.”
“Credwn y dylid oedi proses ddeddfwriaethol Mesur Drafft Cymru er mwyn i’r holl randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ystyried y materion hyn yn llawn,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
‘Adleisio pryderon’
Wrth ymateb i’r adolygiad annibynnol, dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru:
“Mae’r adroddiad hwn yn adleisio llawer o’r pryderon y mae Plaid Cymru eisoes wedi eu codi ynglŷn â’r Mesur Drafft Cymru gwallus hwn.
“Mae’r ddeddfwriaeth yn ei ffurf bresennol yn gymhleth ac aneglur. Mae’r ‘prawf rheidrwydd’ yn cynrychioli rhwystr sylweddol, o ystyried pa mor debygol yw hi y bydd hyn yn arwain at ornest hir yn y llysoedd rhwng llywodraeth Cymru a’r DU.
“Yr unig ffordd o lunio setliad datganoli cadarn a chynaliadwy yw sicrhau fod Cymru’n cael cydraddoldeb gyda chenhedloedd eraill y DU. Ar hyn o bryd, mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael pwerau treth sylweddol tra bod dinasoedd Lloegr yn mynd i gael grym dros heddlua – hyn oll heb refferendwm.
“Dro ar ôl tro, mae Cymru yn cael ei gorfodi i glirio mwy o glwydi nag unrhyw ran arall o’r DU, ond i ddiweddu gyda llai o rym dros ei materion ei hun.
“Mae Plaid Cymru eisoes wedi rhybuddio Llywodraeth San Steffan ein bod yn barod i bleidleisio yn erbyn y bil yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Senedd y DU os yw’n cymryd pwerau nol o Gymru.”