Y Preifat Cheryl James
Fe fydd cwest hir ddisgwyliedig yn dechrau heddiw i farwolaeth milwr ifanc o Langollen a fu farw ym Marics Deepcut yn Surrey mwy na 20 mlynedd yn ôl.
Cafwyd hyd i Cheryl James, 18, gyda bwled yn ei phen yn y barics yn 1995 – roedd hi’n un o bedwar o filwyr ifanc yn eu harddegau i farw yno dros gyfnod o saith mlynedd.
Daeth tystiolaeth newydd i’r fei fis diwethaf a oedd yn awgrymu bod Cheryl James wedi cael ei hecsbloetio’n rhywiol gan uwch swyddogion ychydig cyn ei marwolaeth.
‘Cyfiawnder’
Wrth siarad cyn y cwest dywedodd ei thad, Des James, ei fod yn gobeithio am “gyfiawnder” i’w ferch a’r milwyr ifanc eraill fu farw yn Deepcut a chael atebion i nifer o gwestiynau.
Dywedodd wrth y Press Association: “Ry’n ni’n gwybod bod y diwylliant yn y gwersyll allan o reolaeth. Roedd ’na ddiwylliant o alcohol a chyffuriau.
“Roedd ’na ddiwylliant oedd wedi cael ei greu yn y gwersyll a oedd wedi cyfrannu at farwolaeth pedwar o bobl.
“Mae’n rhaid i ni fynd wrth wraidd yr hyn ddigwyddodd. Rydw i eisiau cyfiawnder i’r pedwar ohonyn nhw.”
‘Tystiolaeth newydd’
Mewn gwrandawiad cyn y cwest fis diwethaf, dywedodd Alison Foster QC sy’n cynrychioli’r teulu, bod ganddyn nhw wybodaeth a oedd yn awgrymu y gallai Cheryl James fod wedi’i “chymell i gael rhyw neu ei threisio’r noson cyn ei marwolaeth, neu yn y cyfnod cyn hynny.”
Roedd yna “honiad uniongyrchol” meddai y gallai’r milwr ifanc fod wedi cael gorchymyn i gysgu gyda pherson “gan un o’i huwch-swyddogion”, meddai.
Bu farw Sean Benton, James Collinson a Geoff Gray o anafiadau o wn ym Marics Deepcut rhwng 1995 a 2002.
‘Ehangu sgôp y cwest’
Yn 2014 roedd barnwyr yn yr Uchel Lys wedi gorchymyn cwest newydd i farwolaeth Cheryl James ar ol diddymu rheithfarn agored a gafodd ei gofnodi ym mis Rhagfyr 1995.
Cafodd ei chorff ei ddatgladdu ym mis Awst y llynedd a chafodd archwiliad post mortem ei gynnal gan ddau arbenigwr.
Mae’r teulu wedi galw am ehangu sgôp y cwest newydd er mwyn cymryd i ystyriaeth y dystiolaeth newydd.
Fe fydd y gwrandawiad yn ystyried a oedd rhywrai eraill yn gysylltiedig â’i marwolaeth a beth ddigwyddodd y noson cyn ei marwolaeth.
Fe fydd hefyd yn ystyried a oedd yna “fethiannau” gyda pholisïau’r barics yn ymwneud ag ymddygiad rhywiol, goruchwylio merched ifanc, cyffuriau, alcohol a llety.
Bydd y cwest yn cael ei gynnal yn Llys y Crwner yn Woking, Surrey ac mae disgwyl iddo barhau am oddeutu saith wythnos.