Cafodd enillwyr Gwobrau Theatr Cymru eu cyhoeddi nos Sadwrn, wrth i’r perfformiadau a’r cynyrchiadau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg gael eu gwobrwyo mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd.
Cafodd Llŷr Titus ei wobrwyo am fod y Dramodydd Gorau yn y Gymraeg am ei ran yn y ddrama ‘Drych’ gan Gwmni’r Frân Wen a Theatr Genedlaethol Cymru.
Rhodri Evan ddaeth i’r brig yng nghategori’r Perfformiad Gorau gan Wryw yn y Gymraeg am ei ran yng nghynhyrchiad Theatr Bara Caws o ‘Difa’, enillydd y Cynhyrchiad Cymraeg Gorau.
Carys Eleri enillodd y wobr am y Perfformiad Gorau gan Fenyw yn y Gymraeg, a hynny am ei rhan yn ‘Yuri’, hefyd gan Theatr Bara Caws.
Eddie Ladd enillodd y wobr am yr Artist Dawns Gorau am ei pherfformiad yn ‘Dawns Ysbrydion’ gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Aeth Gwobr y Gynulleidfa i gynhyrchiad Cwmni’r Torch o ‘Grav’, cynhyrchiad yn olrhain bywyd y diweddar Ray Gravell.
Enwebiadau iaith Gymraeg eraill
Roedd enwebiadau hefyd i ‘Mimosa’ (Theatr Clwyd) ac ‘Oes Rhaid i Mi Ddeffro?’ yng nghategori’r Sioe Orau ar gyfer Plant a Phobol Ifanc.
Cafodd ‘Y Pencadlys’ a ‘Dawns Ysbrydion’ gan y Theatr Genedlaethol a’r Galeri, Caernarfon eu henwebu ar gyfer y Sain Gorau.
Roedd enwebiad hefyd i Ruth Hall a Max Jones yn y categori Dylunio/Gwisg Gorau ar gyfer ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’, ac i Camilla Clarke am ‘Yuri’.
Angharad Price (Nansi, Theatr Genedlaethol) a Dewi Wyn Williams (Difa, Theatr Bara Caws) oedd ar y rhestr fer ar gyfer y Dramodydd Gorau yn y Gymraeg.
Cafodd ‘Dawns Ysbrydion’ gan y Theatr Genedlaethol ei henwebu ar gyfer y Cynhyrchiad Dawns Gorau.
Yng nghategori’r Perfformiad Gorau gan Fenyw yn y Gymraeg, roedd enwebiadau ar gyfer Melangell Dolma (Nansi, Theatr Genedlaethol), Gwenno Elis Hodgkins (Drych) a Catherine Ayres (Y Tŵr, Invertigo).
Yn y categori cyfatebol i Wrywod, cafodd Dyfan Roberts ei enwebu ar gyfer ‘Pum Cynnig i Gymro’ (Theatr Bara Caws), ynghyd â Bryn Fôn (Drych) a Steffan Donnelly (‘Y Tŵr’).
Roedd enwebiad hefyd i Peter Doran yng nghategori’r Cyfarwyddwr Gorau am gynhyrchiad Cwmni’r Torch o ‘Grav’.
Yn y categori Cynhyrchiad Cymraeg Gorau, roedd enwebiadau ar gyfer ‘Y Tŵr’, ‘Difa’, ‘Yuri’ a ‘150’, sef cyd-gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol/National Theatre/S4C yn olrhain canrif a hanner ers sefydlu’r Wladfa.
Ymateb
Wrth gyfeirio’n benodol at Wobr y Gynulleidfa, dywedodd cyfarwyddwr Gwobrau Theatr Cymru, Mike Smith: “Roedd pleidleisio dros Grav yn dangos sut y gwnaeth y sioe un dyn hon gysylltu â chynulleidfaoedd pan aeth ar daith yng Nghymru.
“Cafodd y wobr ei derbyn gan gyfarwyddwr y sioe, Peter Doran, yr awdur Owen Thomas a’r actor Gareth John Bale.
“Mae Gravy n adrodd hanes y diweddar gawr rygbi Ray Gravell. Cafodd y wobr ei chyflwyno gan y cyfarwyddwr theatr clodwiw Michael Bogdanov.”