Mae’r darlledwr Syr Terry Wogan wedi marw’n 77 oed.
Cadarnhaodd ei deulu y bu farw o ganser.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall ei fod yn “drysor cenedlaethol”, gan ychwanegu: “Heddiw rydym wedi colli ffrind hyfryd.”
Dywedodd Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny: “Fel Gwyddel, roedd gan Terry Wogan le arbennig yng nghalon gwrandawyr Prydeinig, ac fe chwaraeodd ran nid bach fel pont rhwng Iwerddon a Phrydain.”
Gyrfa
Roedd Wogan, oedd yn enedigol o Limerick yn Iwerddon, yn lais ac yn wyneb ar y BBC ers hanner canrif.
Yn ystod ei yrfa gyda’r Gorfforaeth, fe gyflwynodd raglen ‘Wogan’ ar y teledu a ‘Wake Up to Wogan’ ar Radio 2.
Roedd hefyd yn lais y gystadleuaeth Eurovision ers blynyddoedd lawer, ac yn gyflwynydd Plant Mewn Angen.
Ond doedd dim modd iddo gyflwyno Plant Mewn Angen ddiwedd y llynedd.
Teyrngedau
Dywedodd rheolwr Radio 2, Bob Shennan: “Fel cyflwynydd ‘Wake Up to Wogan, sefydlodd Terry ei hun fel un o’r cyflwynwyr radio gorau a mwyaf poblogaidd a glywodd y wlad hon erioed.
“Cawsom ein goleuo gan ei bersonoliaeth a’i swyn wrth iddo ein deffro bob bore yn ystod yr wythnos, gan ddod yn rhan hanfodol a hoffus o’n bywydau.
“Roedd ei filiynau o wrandawyr yn ei garu, fel yr oedd ei holl deulu yn Radio 2. Byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr iawn ac mae ein meddyliau gyda Helen a’r teulu oll ar yr adeg drist iawn hon.”
Ychwanegodd cyfarwyddwr Radio’r BBC, Helen Boaden: “Roedd Syr Terry yn chwedlonol ar y radio. Ers degawdau, fe fu’n rhoi pleser i wrandawyr radio gyda’i ffraethineb, ei wres a’i hiwmor digyffelyb.
“Roedd yn ddarlledwr rhyfeddol ond hefyd yn dipyn o hwyl, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl.”
Mae nifer o ddarlledwyr hefyd wedi bod yn ymateb i’r newyddion fore Sul.
Dywedodd Jeremy Vine ar Twitter: “Un o’r goreuon go iawn a welsom erioed. Ac yn trin ei gydweithwyr fel ffrindiau.”
Dywedodd Tony Blackburn: “Anodd gen i gredu bod fy hen ffrind Syr Terry Wogan wedi marw. Cwsg mewn hedd Terry a diolch am fod yn ffrind.”
Dywedodd Lauren Laverne fod Wogan yn “arwr darlledu”.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Eurovision: “Rydym yn drist iawn o golli Terry Wogan. Ef, heb amheuaeth, oedd y sylwebydd Eurovision mwyaf hynod erioed.”
Ychwanegodd cyflwynydd presennol y gystadleuaeth, Graham Norton: “Fe wnaeth iddo ymddangos yn ddi-ymdrech ac i fachgen ifanc yn Iwerddon, fe wnaeth iddo ymddangos yn bosib. Cwsg mewn hedd Syr Terry Wogan. Fe godaf wydryn yn ystod cân rhif 9.”