Mae dyn wedi’i achub o afon Wysg yn Y Fenni yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 3.30yb, yn dilyn adroddiad fod dyn “mewn amgylchiadau hynod beryglus” yn y dwr.
Yn ol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, roedd y gwr wedi dal gafael mewn coeden er mwyn osgoi mynd gyda’r llif. Mae bellach yn ddiogel, ond yn diodde’ o effeithiau’r oerfel a sioc.
Mae’r Gwasanaeth yn gofyn i gerddwyr fod yn ofalus ar lan afonydd yn ystod y tywydd garw a llif uchel hwn.