Ffoaduriaid yn cyrraedd ynys Lesbos y llynedd
Mae beth bynnag 33 o bobol, yn cynnwys 5 o blant, wedi boddi wedi i’r cwch yr oedden nhw’n teithio ynddi droi drosodd oddi ar arfordir Twrci. Roedden nhw ar eu ffordd i ynys Lesbos yng ngwlad Groeg.
Mae adroddiadau newyddion yn dweud fod 75 o bobol eraill wedi’u hachub ger Ayvacik gan wylwyr y glannau, ac mae’r rheiny wedi’u hadnabod fel pobol o Afghanistan, Syria a Myanmar.
Mae’r IOM, yr asiantaeth sy’n cadw cyfri’ o fynd a dod pobol ar draws y byd, yn dweud fod cyfanswm o 218 o bobol wedi marw eleni, wrth geisio croesi’r moroedd rhwng Twrci a gwlad Groeg. Mae Twrci bellach yn gartre’ i tua 2.5 miliwn o ffoaduriaid o Syria.
Ym mis Tachwedd y llynedd, fe gytunodd Twrci i wrthsefyll y rhwydweithiau sy’n smyglo pobol i mewn i Ewrop. Yn gyfnewid am hynny, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi addo cymorth ariannol o 3 biliwn ewro i’r wlad, er mwyn gwella amodau byw y ffoaduriaid.