Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon yn galw am uned arbenigol i famau a babanod yn y gogledd.
Does dim uned arbenigol yn y gogledd ar hyn o bryd i famau sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ôl geni plentyn, na’u babanod, a dydy hynny ddim yn dderbyniol i Siân Gwenllian.
Dywed fod yn rhaid i famau deithio dros y ffin i fynd i uned arbenigol i famau a babanod, a bod hyn yn cael cryn effaith ar y fam a’r babi.
Mae yna oblygiadau ieithyddol hefyd os nad y Gymraeg yw’r famiaith.
Yn ôl Siân Gwenllian, mae’r fam weithiau’n gorfod gwneud penderfyniad anodd i aros yn y gogledd, mynd i uned seiciatryddol a chael ei gwahanu oddi wrth ei babi gan mai dyna’r opsiwn gorau sydd ar gael.
Ym marn Siân Gwenllian, dydy’r opsiynau yma ddim yn ddigon da ac mae effeithiau negyddol iddyn nhw.
Yr angen am uned yn y gogledd
Mewn cyfnod hynod anodd i’r fam a’r babi oherwydd problemau iechyd dwys, mae Siân Gwenllian yn credu bod y sefyllfa’n ychwanegu at y trawma.
“Rwy’n meddwl bod angen uned arbenigol i famau a babanod yn y gogledd,” meddai wrth golwg360.
“Mae disgwyl i famau deithio yn bell i ffwrdd o’u hardal, yn bell i ffwrdd o’u teulu, i gael triniaeth arbenigol yn Lloegr.
“Mae’n ychwanegu at broblemau dyrys mae mam newydd yn ffeindio’i hun ynddyn nhw beth bynnag, felly mae’n bwysau ychwanegol ar y fam i fynd yn bell i fwrdd o’i chynefin.
“Beth sydd yn digwydd, beth rwy’n gwybod sy’n digwydd, ydy bod y fam yn penderfynu fod hi ddim eisiau mynd yn bell i ffwrdd oddi wrth ei theulu, ac wedyn mae hi’n mynd i uned seiciatryddol i oedolion yn lleol, ac oherwydd hynny dydy hi ddim yn cael mynd â’r babi efo hi.
“Mae rheolau yn erbyn caniatáu iddi hi fynd â’r babi efo hi.
“Fedrwch chi feddwl y trawma ychwanegol sy’n dod i fywyd rhywun sydd, nid yn unig yn delio efo problemau dyrys a seicosis a’r holl broblemau sy’n codi o hynny, ond hefyd yn delio efo’r trawma o gael eu gwahanu oddi wrth ei baban?
“Fel mam fy hun, alla i ddim meddwl am ddim byd gwaeth nag, ar ôl genedigaeth bod hynny’n digwydd i rywun.
“Weithiau, mae’r fam yn teimlo’i bod hi jest ddim eisiau mynd yn bell i ffwrdd, a well ganddi hi’r sefyllfa yna.
“Dydy’r naill sefyllfa na’r llall ddim yn dderbyniol.
“Rwy’n meddwl bod eisiau edrych o ddifri eto ar y sefyllfa yn y gogledd.”
‘Dan bwysau i siarad Saesneg’
Er bod uned yn cael ei sefydlu yng Nghaer, ym marn Siân Gwenllian dydy hynny ddim yn ddigon da, yn rhannol oherwydd na fydd darpariaeth Gymraeg i’r fam na’r babi.
Yn ôl Siân Gwenllian, y peryg o fynd i Loegr yw y bydd y fam yn teimlo dan bwysau i siarad Saesneg â’i phlentyn, a byddai’n teimlo’n estron ac yn ddieithr i nifer o famau Cymraeg eu hiaith.
“Dydw i ddim yn siŵr lle mae’r sefyllfa arni erbyn hyn,” meddai wedyn.
“Fy nadl i ydy, pam ddim rhoi’r uned yna yn y gogledd?
“Pam bod o’n gorfod mynd i Gaer?
“O roi o yn y gogledd, mi fysa modd recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg er mwyn bod yn cefnogi’r mamau a’u plant mewn cyfnod dyrys ofnadwy.
“Peth arall fedra i ddim dychmygu yw siarad Saesneg efo fy mhlentyn oherwydd bod y nyrsys o’n nghwmpas i yn siarad Saesneg.
“Mae’n bwysig ofnadwy, fel bod y fam yn gallu teimlo’n gyfforddus a defnyddio’r iaith mae hi eisiau gyda’i phlentyn, a pheidio teimlo unrhyw fath o bwysau i ddefnyddio’r iaith Saesneg.
“Os ydych chi dros y ffin yng Nghaer, mae’r staff o’ch cwmpas chi i gyd ddim yn siarad Cymraeg.
“Mae’r pwysau yna’n ychwanegol i bob dim arall rydych chi’n mynd drwyddo fo.
“Fy nadl i ydy, rhowch yr uned yn y gogledd i wasanaethu ardal eang.
“Mae rhywun yn gwybod bod eisiau’r arbenigwyr.
“Mae rhywun yn gwybod dydy o ddim yn ganran fawr o’r boblogaeth sy’n cael eu heffeithio gan y broblem yma, ond dydw i methu deall pam nad oes modd gosod yr uned yn y gogledd ac wedyn mi fysa rhaid i’r sefyllfa yna wedyn gydymffurfio efo Deddf yr Iaith Gymraeg.
“O roi o yn Lloegr, does dim rhaid cael unrhyw ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.”
Problemau ar sawl lefel
Mae Siân Gwenllian yn teimlo bod diffyg uned arbenigol i famau a babanod yn adlewyrchu problemau ar sawl lefel.
“Rwy’n meddwl bod hon yn enghraifft unwaith eto o, un, merched ddim yn cael darpariaeth llawn.
“Dau, y diffyg cydnabyddiaeth o gael gofal yn dy iaith gyntaf.
“Tri, bod mamau yn y gogledd-orllewin yn arbennig dan anfantais yn anaml iawn oherwydd pellteroedd teithio.
“Mae rhaid i hynny fod yn rhan o’r darlun pan mae gwasanaethau yn cael eu rhoi at ei gilydd a darparu ar gyfer y cyhoedd.”