Mae’r ymdrechion i ddod o hyd i safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Ngwent yn wynebu ymgais ar yr unfed awr ar ddeg i sicrhau bod rhaid dechrau o’r dechrau ar y broses.
Cafodd tri safle posib gafodd eu cyflwyno ar gyfer yr ymgynghoriad – i bobol gael dweud eu dweud – eu cytuno ddechrau mis Hydref, ond gallai cyfarfod fydd yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf orfodi ailfeddwl am y safleoedd sy’n cael eu dewis.
Y bwriad oedd y byddai’r ymgynghoriad chwe wythnos yn dechrau ddydd Mercher (Hydref 18), ond mae ymyrraeth tri chynghorydd annibynnol yn golygu bod y cynlluniau hynny wedi’u rhoi o’r neilltu bellach.
Roedd y safleoedd ar Fferm Bradbury a Fferm Oak Grove yng Ngrug, a chae gafodd ei glustnodi’n flaenorol y tu ôl i Glôs Langley ym Magwyr, wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer yr ymgynghoriad gan Gabinet Llafur Cyngor Sir Fynwy ar Hydref 4.
Fodd bynnag, mae’r Cynghorydd Frances Taylor (Gorllewin Magwyr), ynghyd â Simon Howarth (Llanelli Hill) a David Jones (Crucornau) – sy’n rhan o’r Grŵp Annibynnol dan arweiniad y Cynghorydd Frances Taylor – wedi defnyddio proses galw i mewn y Cyngor i orfodi ailedrych ar y penderfyniad.
Mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid i aelod o’r Cabinet – fwy na thebyg y dirprwy arweinydd Paul Griffiths, sydd â chyfrifoldeb dros adnabod y safleoedd posib – ymddangos gerbron cyfarfod arbennig o bwyllgor craffu llefydd y Cyngor i gyfiawnhau ei benderfyniad gwreiddiol.
Y cyfarfod
Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ddydd Llun (Hydref 23) am 4 o’r gloch, ond mae’n bosib y gallai rhan o’r cyfarfod gael ei gynnal y tu ôl i ddrysau caëedig pe bai materion personol neu ariannol yn ymwneud ag unigolion neu deuluoedd, neu safleoedd presennol neu bosib, yn cael eu datgelu.
Pe na bai’r pwyllgor trawsbleidiol o naw aelod yn hapus â’r atebion, fe allen nhw orchymyn y Cabinet i ailfeddwl am y penderfyniad, neu drosglwyddo’r mater i’r Cyngor llawn, allai orfodi’r Cabinet i edrych eto ar y penderfyniad.
Galw’r penderfyniad i mewn
Dywed y cynghorwyr annibynnol eu bod nhw wedi galw’r penderfyniad i mewn gan eu bod nhw’n honni bod y broses o adnabod y safleoedd yn “ddiffygiol”, a bod yna “bryderon niferus am integriti’r broses, anghysondeb tybiedig, a gwybodaeth wallus” o hyd.
Maen nhw hefyd yn wfftio bod argymhelliad y pwyllgor craffu ym mis Gorffennaf, oedd yn dweud y dylai’r Cabinet ailddechrau’r broses o ddewis safleoedd, wedi cael ei ddilyn.
Mae’r Cynghorydd Paul Griffiths eisoes wedi dweud mewn dadl yn y Cyngor llawn – pan gafodd cais blaenorol y Cynghorydd Frances Taylor i ddileu safle Clôs Langley a safle arall yn Undy rhag cael eu hystyried ei drechu – ei fod e wedi rhoi ystyriaeth i’r adborth.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths ei fod e wedi edrych o’r newydd ar dir y Cyngor, gan gynnwys darnau o dir nad oedden nhw dan ystyriaeth yn flaenorol, gan eu bod nhw wedi’u rhestru fel tir addas ar gyfer datblygiad preswyl posib.
Arweiniodd y broses honno at gyflwyno’r caeau amaethyddol yng Nghrug.
Dywedodd y Cynghorydd dros Gastell Cas-gwent a Larkfield hefyd fod y Cabinet wedi ailystyried safle Clôs Langley, ond eu bod nhw “wedi dod i benderfyniad gwahanol” i’r sawl sy’n gwrthwynebu’r posibilrwydd o’i gynnwys yn y cynllun datblygu.
Mae’r materion eraill gafodd eu codi gan gynghorwyr yn cynnwys yr angen i ymchwilio i halogiad ac effaith sŵn ar y safleoedd, gan gynnwys Clôs Langley sydd ger yr M4, a chost bosib yr ymchwiliadau.
Maen nhw’n dweud y gallai cynnal ymchwiliad dim ond pe bai’r safleoedd yn symud yn eu blaenau yn y pen draw i gais cynllunio “arwain at gost sylweddol i’r awdurdod”.
Mae’r Cyngor yn dweud bod yr angen lleol sydd wedi’i asesu yn dangos galw am ddeg neu unarddeg lle dros hyd oes eu cynllun datblygu lleol newydd, fydd yn llywio’r defnydd o dir yn y sir hyd at 2033.
Maen nhw’n dweud bod safle’n ryw 320 metr sgwâr, fyddai’n golygu lle i gerbyd, carafan a bloc cyfleusterau.
Mae angen llai nag erw o dir ar ddeg safle ledled y sir.
Deiseb ac ymgynghoriad
Mae’r ddau safle yn ward Porthysgewin, ac mae’r cynghorydd yno, Lisa Dymock, wedi cofrestru e-ddeiseb ar wefan y Cyngor sydd wedi cael ei llofnodi gan dros 470 o bobol sy’n nodi bod y safleoedd yn “anaddas”.
Mae’r Cyngor yn cynnig ymgynghoriad sy’n cynnwys y tri chae fel rhai sydd wedi’u nodi fel safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y cynllun datblygu lleol newydd.
Bydd gofyn i’r Cyngor llawn gytuno ar y strategaeth ar gyfer y cynllun yn eu cyfarfod llawn ddyd Iau, Hydref 26, a phe bai’r pwyllgor craffu yn trosglwyddo’r penderfyniad ar y safle i Sipsiwn a Theithwyr i’r Cyngor llawn, bydd hynny hefyd yn cael ei ystyried yn y cyfarfod hwnnw.
Does dim disgwyl y bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad tan fis Rhagfyr ynghylch pa safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr y dylid eu cynnwys yn y cynllun, ac mae disgwyl y bydd gofyn i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r cynllun yn ei gyfanrwydd fis Ebrill neu fis Mai y flwyddyn nesaf.
Yna, bydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer rownd arall o’r ymgynghoriad cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Medi.