Mae angen gwella cyfleuster iechyd meddwl Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Daw’r adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o’r uned iechyd meddwl arbenigol yn y Rhyl dros gyfnod o dridiau ym mis Gorffennaf.

Caiff yr ysbyty ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol.

Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar Ward Tegid, ward rhywedd cymysg ar gyfer iechyd meddwl pobol hŷn, a Ward Dinas, wardiau deg gwely derbyniadau acíwt ar wahân ar gyfer dynion a menywod.

Problemau

Yn ystod yr arolygiad, gwnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nodi problemau mewn perthynas â’r ystafell Adran 136, sef lle diogel o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer cleifion gaiff eu cadw tan y caiff asesiad o’u hanghenion ei gwblhau.

Cawson nhw eu “siomi” am nad oedd y gwasanaeth wedi gweithredu eu hargymhellion ar gyfer yr un broblem gododd ym mis Ionawr 2019.

Bu’n ofynnol i’r staff gefnogi cleifion yn yr ystafell hon ar eu pen eu hunain, oherwydd lefelau staffio annigonol mewn rhannau eraill o’r uned.

Mae’r Arolygiaeth yn “cydnabod bod cynlluniau ar waith ar gyfer agor cyfleuster newydd yn y dyfodol gyda’r nod i ddatrys hyn, ond mae’n hanfodol bod y bwrdd iechyd yn rheoli’r risgiau nawr”, meddai.

Maen nhw wedi gofyn am sicrwydd gan y bwrdd iechyd ynghylch y camau fydd yn cael eu cymryd yn y cyfamser i “wella’r amgylchedd ac ansawdd y gofal” cyn i’r cyfleuster newydd agor.

Urddas a pharch

Gwelodd yr arolygwyr staff yn trin cleifion ag urddas a pharch, ac roedd y cleifion wnaethon nhw siarad â nhw yn canmol y gofal oedd yn cael ei ddarparu, a’r rhyngweithio rhyngddyn nhw a’r staff.

Roedd gweithgareddau amrywiol ar gael i gleifion gymryd rhan ynddyn nhw yn ystod eu harhosiad i wella eu llesiant.

Roedd gwybodaeth yn cael ei harddangos ar y wardiau i roi gwybod i gleifion am eu hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Roedd dewis iaith pob claf yn cael ei gofnodi ar fyrddau ‘cipolwg’ ar statws cleifion ar bob ward, gyda’r arolygwyr yn nodi bod hyn yn arfer da.

Ond doedd amgylchedd ffisegol y wardiau ddim yn helpu i gynnal preifatrwydd ac urddas pob un o’r cleifion yn llawn.

Er enghraifft, er bod gan y mwyafrif o’r cleifion eu hystafelloedd eu hunain, roedd yn rhaid i rai cleifion rannu ystafell wely.

Nododd yr arolygwyr y byddai o fudd i gleifion gael personoli eu hystafelloedd, i greu man diogel lle y gallan nhw ddangos eu personoliaeth er mwyn helpu i hybu eu llesiant.

Roedd polisïau a gweithdrefnau addas ar waith i helpu’r staff i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.

Roedd amgylchedd pob ward yn lân ac yn daclus, ac roedd gosodiadau a ffitiadau addas ar gyfer y grŵp hwn o gleifion.

Roedd polisïau a phrosesau sefydledig y bwrdd iechyd ar waith er mwyn sicrhau bod y staff yn diogelu cleifion agored i niwed, ac roedd achosion yn cael eu hatgyfeirio at asiantaethau allanol fel bo’n ofynnol.

Ond rhybuddia’r arolygwyr fod yn rhaid i’r bwrdd iechyd ddatblygu polisi sy’n nodi’r disgwyliadau o ran diogelwch staff mewn perthynas â gwisgo larymau personol ar gyfer diogelwch.

Gwaith gweinyddol “yn gynhwysfawr, yn glir ac o ansawdd da”

Ar y cyfan, roedd cofnodion y cleifion yn gynhwysfawr, yn glir ac o ansawdd da.

Roedd yn ymddangos bod prosesau llywodraethu a goruchwylio mewnol priodol ar waith, gan gynnwys cyfarfodydd i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â gofal cleifion ac i nodi gwelliannau.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r cofnodion rhoi meddyginiaeth gael eu cwblhau’n llawn a’u hysgrifennu’n glir er mwyn osgoi dryswch ymysg y staff ac i leihau’r risg o wall meddyginiaeth, meddai’r arolygwyr.

Roedd tystiolaeth o gynlluniau rhyddhau cleifion o’r ysbyty ac ôl-ofal priodol, gyda chyfraniad da gan y timau amlddisgyblaethol, cydgysylltwyr gofal a thimau iechyd meddwl o’r gymuned leol.

Roedd cyfraddau cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol yn uchel ymhlith y staff yn yr uned hefyd.

Dywedodd y mwyafrif o’r staff y bydden nhw’n argymell yr uned fel lle i weithio, ac fe wnaethon nhw nodi y bydden nhw’n hapus â safon y gofal yn yr uned pe byddai angen triniaeth arnyn nhw neu ar ffrind neu berthynas.

Ond cododd rhai aelodau o’r staff bryderon am y lefelau staffio yn yr uned ac roedden nhw o’r farn nad oedd yr uwch-reolwyr yn amlwg ac nad oedd y broses gyfathrebu rhwng yr uwch-reolwyr a’r staff yn effeithiol.

Mae’r Arolygiaeth wedi gofyn i’r bwrdd iechyd roi sicrwydd am y trefniadau staffio presennol.

Rhaid i’r bwrdd iechyd adlewyrchu a rhoi sicrwydd am y ffordd y bydd yn ymgysylltu, yn gwrando ac yn gweithredu ar adborth gan staff.

‘Rhaid gwneud gwelliannau nawr’

“Rydym yn ymwybodol bod cynlluniau ar waith i agor uned iechyd meddwl arbenigol newydd a fydd yn sicrhau cyfleuster modern wedi’i wella’n sylweddol, ac a fydd yn galluogi’r staff i ddarparu lefelau uwch o ofal,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Fodd bynnag, ni fydd yr uned newydd hon wedi’i chwblhau am nifer o flynyddoedd, ac mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd wneud gwelliannau nawr i amddiffyn y cleifion a’r staff presennol.

“Mae’n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal diogel ac urddasol.

“Mae hefyd yn dda clywed adborth cadarnhaol gan gleifion ar eu gofal.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r bwrdd iechyd ar ei gynlluniau ar gyfer gwella.”