Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ac yn darogan glaw trwm a llifogydd posib yn y gogledd.

Mae’r rhybudd mewn grym tan 6 o’r gloch fore Sadwrn (Hydref 21).

Maen nhw’n rhybuddio y gallai llifogydd achosi oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus, llifogydd mewn cartrefi a busnesau, a thorri cyflenwadau pŵer.

Mae’r rhybudd mewn grym yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd, Môn a Wrecsam.