Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, wedi ysgrifennu at Suella Braverman, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, yn gofyn iddi egluro’r penderfyniad gwreiddiol i gartrefu ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli.

Arweiniodd y penderfyniad at fisoedd o aflonyddwch lleol, tensiynau, protestiadau, gweithgarwch troseddol a cholli swyddi cyn i’r Swyddfa Gartref wneud tro pedol.

Roedd y sefyllfa’n “annaladwy” ar adegau o safbwynt plismona, meddai’r Comisiynydd, wrth i swyddogion rheng flaen a staff orfod gweithio’n barhaus o dan “amgylchiadau heriol sydd ar adegau wedi peryglu perthynas gadarnhaol Heddlu Dyfed-Powys â chymunedau”.

Mae Dafydd Llywelyn yn ceisio atebion ynghylch y prosesau gwneud penderfyniadau, a diffyg cynllunio strategol honedig.

Cwestiynau

“Pwy wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf ac ar ba lefel neu gan bwy y cafodd ei awdurdodi?” gofynna yn ei lythyr.

“Pa weinidog oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r penderfyniad?

“A luniwyd achos busnes yn cynnwys y diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod y penderfyniad yn ymarferol ac yn realistig?

“Pa Asesiadau Risg gafodd eu cynnal i sicrhau bod y Swyddfa Gartref yn fodlon bod hwn yn safle priodol?

“Beth yw’r costau cysylltiedig mewn perthynas â rhedeg y safle ers i’r penderfyniad gael ei wneud hyd yn hyn?

“Beth yw’r cynlluniau ad-dalu costau ar gyfer plismona lleol a gwasanaethau lleol eraill?”

‘Gwersi heb eu dysgu’

Dywed Dafydd Llywelyn fod ei ail lythyr at Suella Braverman yn “mynnu bod trethdalwyr lleol yn cael atebion i gwestiynau am gostau sy’n gysylltiedig â phenderfyniad cychwynnol y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade i gartrefu ceiswyr lloches”.

“Pwy wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf ac ar ba lefel awdurdod?” gofynna.

“Ble oedd yr achos busnes a’r diwydrwydd dyladwy o’i amgylch wrth sicrhau bod y penderfyniad yn ymarferol ac yn realistig?

“Mae’r costau sy’n gysylltiedig â phlismona’r safle hwn wedi bod yn sylweddol ac wedi bod yn codi’n barhaus hyd at yr wythnos ddiwethaf.

“Yn ogystal â hynny, ychwanegwch at hynny, y costau gafodd eu tynnu gan ddarparwyr gwasanaeth eraill megis y Gwasanaeth Tân a’r Awdurdod Lleol, ac yr un mor bwysig, faint y mae’r Swyddfa Gartref eu hunain wedi’i wario ar y safle dros y misoedd diwethaf?

“Mae angen atebion ar ein trethdalwyr ac anogaf y Swyddfa Gartref i roi esboniad clir o’r sefyllfa yr ydym ynddi a’r pwysau sylweddol sydd wedi’i roi ar ddarparwyr gwasanaethau lleol yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.”

Cymunedau dan bwysau

Yn ôl Dafydd Llywelyn, nid dyma’r tro cyntaf i’r Swyddfa Gartref roi cymunedau yn ei ardal heddlu dan bwysau.

Yn ystod y pandemig Covid-19 yn 2020, cafodd ceiswyr lloches gartref mewn gwersyll ym Mhenalun yn Sir Benfro, ac fe arweiniodd hynny at gryn brotestio.

“Fel y soniais yr wythnos diwethaf, dyma’r eildro mewn ychydig o flynyddoedd yn unig i gymunedau lleol a darparwyr gwasanaethau yn Nyfed-Powys gael eu rhoi dan bwysau diangen oherwydd diffyg cynllunio strategol ac ymgysylltu lleol gan y Swyddfa Gartref,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Mae’n amlwg i mi nad oes unrhyw wersi wedi’u dysgu o brofiadau’r gorffennol, ac unwaith eto rydym wedi cael ein gadael i godi’r darnau ar lefel leol.

“Fel y gwyddoch o ohebiaeth flaenorol, rwy’n gwbl gefnogol i strategaeth Llywodraeth Cymru i gartrefu pobol mewn model gwasgaredig.

“Mae hyn yn gynaliadwy wrth gynnig ateb tymor hwy i geiswyr lloches yn ardal Dyfed-Powys.

“Mae’n fodel mae pobol Cymru yn ei gefnogi, wedi’i gofleidio ac wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus i ailsefydlu ceiswyr lloches Syria, Affganistan, Wcráin a chyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu, nodais fy ngweledigaeth i gadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel, gan gynnal ymddiriedaeth a hyder yn ein heddlu a’n system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd.

“Mae’n ymddangos bod y camau a gymerwyd gan y Swyddfa Gartref wedi bod yn uniongyrchol groes i’m hymrwymiadau ac edrychaf ymlaen at ddeall eu penderfyniadau ar y mater hwn.”