Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £40m i adnewyddu Morglawdd Caergybi, er mwyn ceisio diogelu ei ddyfodol.

Daw hyn ar ben swm o £20m sydd wedi’i addo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Porthladd Caergybi yw’r prysuraf yn y Deyrnas Unedig o ran traffig cludo nwyddau Môr Iwerddon.

Mae morglawdd 2.4km o hyd gafodd ei adeiladu 150 o flynyddoedd yn ôl yn darparu amddiffyniad hanfodol i’r porthladd.

Heb y morglawdd, byddai amodau’r tonnau’n atal gweithredu fferïau, a gallai hynny arwain at golli gwasanaeth a chau’r porthladd.

Ers i’r morglawdd gael ei adeiladu, mae wedi erydu’n raddol yn sgil y môr ac felly byddai diffyg gwaith amddiffyn yn peri risg i ddyfodol y porthladd.

‘Datblygiad cadarnhaol’

Yn ôl Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, bydd y buddsoddiad yn helpu i warchod swyddi.

“Mae Porthladd Caergybi yn ased pwysig i ogledd Cymru,” meddai.

“Bydd y buddsoddiad hwn o £40m yn y morglawdd yn helpu i sicrhau dyfodol y porthladd ac amddiffyn swyddi.

“Mae’r porthladd o bwysigrwydd strategol hanfodol. Mae’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau ffyniant economaidd i’r rhanbarth ac mae hefyd yn rhan allweddol o’n seilwaith trafnidiaeth.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ddatblygiad cadarnhaol i Ynys Môn ac yn dangos ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i’r ynys.”

Adeiladu ar statws y porthladd

Mae Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y Deyrnas Unedig yn Stena Line Ports Ltd, wedi croesawu’r buddsoddiad ychwanegol.

“Mae’r cymorth hwn yn cyfrannu’n sylweddol at y buddsoddiad arfaethedig o £100m+ yn y morglawdd, fydd yn sicrhau adnewyddiad hirdymor a chadarn o’r darn hanfodol hwn o seilwaith,” meddai.

“Mae Porthladd Caergybi yn gyswllt trafnidiaeth allweddol rhwng y Deyrnas Unedig, Iwerddon a gweddill Ewrop, gan symud miliynau o dunelli o nwyddau a chludo miloedd o deithwyr bob blwyddyn.

“Wrth edrych i ddyfodol y porthladd ac Ynys Môn yn ehangach, rydym yn ceisio adeiladu gyda’n partneriaid Cyngor Sir Ynys Môn ar statws Porthladd Ynys Môn i hybu diwydiant a buddsoddiad yn y rhanbarth, a fydd yn cefnogi’r economi leol ac economi gogledd Cymru.

“Mae adnewyddu’r morglawdd a diogelu’r porthladd a’r ardal gyfagos yn hollbwysig i’r cynllun hirdymor hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar bod llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi cydnabod ei bwysigrwydd.”

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn gobeithio y bydd y buddsoddiad yn rhoi hyder i’r sector preifat fuddsoddi yn y porthladd ac yn “agor cyfleoedd newydd cyffrous.”