Mae disgwyl i’r premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Rhondda Cynon Taf barhau.
Mae adroddiad fydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn ddydd Mercher (Hydref 25) yn argymell bod y Cyngor yn parhau â phremiwm o 50% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, a 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros ddwy flynedd.
Mae hefyd yn argymell fod y Cyngor yn cadarnhau cyflwyno premiwm o 100% ar gyfer ail gartrefi (eiddo Dosbarth B) o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, fel gafodd ei gytuno yng nghyfarfod y Cyngor ar Ionawr 18 eleni.
Deddf Tai (Cymru) 2014
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu bod cynghorau’n codi ‘premiwm’ ychwanegol ar gartrefu sydd wedi bod yn wag ers deuddeg mis neu fwy, ac ail gartrefi.
Caiff eiddo gwag hirdymor ei ddiffinio fel preswylfa heb breswylydd a heb gelfi sylweddol am gyfnod barhaus o fwy na blwyddyn.
O ran ail gartrefi, er mwyn i bremiwm fod yn berthnasol i gartrefu lle mae rhywun yn byw’n achlysurol, rhaid i’r Cyngor wneud eu penderfyniad cyntaf o leiaf flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol mae’r premiwm yn berthnasol iddi, a gwnaeth Rhondda Cynon Taf y penderfyniad hwn yn eu cyfarfod ym mis Ionawr, gyda’r premiwm yn berthnasol o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf.
Bydd lefel y premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn parhau ar 50% lle bu’r eiddo’n wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, a 100% lle bu’n wag ers dros ddwy flynedd, ac ar gyfer ail gartrefi fe fydd lefel y premiwm yn 100%.
Argymhelliad arall yw parhau heb ostyngiad treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi neu lety gwyliau sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel eiddo Dosbarth A, B neu C.
Gall y Cyngor roi gostyngiad o hyd at 50% hefyd ar ail gartrefi neu lety gwyliau (Dosbarth A a B), ond mae’r Cyngor wedi penderfynu’n blaenorol na fyddan nhw’n rhoi gostyngiad ar gyfer eiddo Dosbarth A na B.
Dosbarth A, B ac C
Eiddo Dosbarth A yw’r rheiny nad ydyn nhw’n unig neu brif breswylfa rhywun, sydd â chelfi a lle mae’n anghyfreithlon byw yno am gyfnod parhaus o fwy na 28 diwrnod yn ystod y flwyddyn berthnasol.
Mae eiddo Dosbarth B yr un fath, ond dydy byw yno am gyfnod parhaus o fwy na 28 diwrnod yn ystod y flwyddyn bresennol ddim yn anghyfreithlon.
Gall y Cyngor roi gostyngiad o hyd at 50% ar dai heb breswylydd sydd heb gelfi sylweddol tu hwnt i’r eithriad statudol o chwe mis, ac mae’r eiddo hyn yn cael eu hadnabod fel Dosbarth C, ond mae’r Cyngor eisoes wedi penderfynu na fyddan nhw’n rhoi gostyngiad ar gyfer eiddo Dosbarth C.