Bydd digwyddiad i helpu menywod i deimlo eu bod nhw wedi’u grymuso yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd fis nesaf.
Bydd ‘Adfer dy rym’ yn cael ei gynnal yng Nghwrt Insole yn y brifddinas ar Dachwedd 4, rhwng 10yb a 3yp, a’r pris yw £199 sy’n cynnwys digwyddiadau’r dydd, bwyd a gweithgareddau mae modd eu cwblhau gartref.
Gobaith y trefnwyr – Becca Williams, sy’n byw yn ochrau’r Barri ond yn dod o Fangor, a Catrin Atkins, sy’n yw ger Caerffili – yw, nid yn unig rymuso merched, ond eu helpu nhw i sylweddoli bod llwybr bywyd pawb yn wahanol.
Bydd Becca Williams yn gwneud gwaith ar symudedd er mwyn bod yn bresennol yn y corff.
Rhoi’r grym yn ôl i ferched gyda’u sgiliau
Mae Catrin Atkins yn hyfforddwr bywyd ers 2019, yn anogydd bywyd a mentor.
Mae hi’n cynnal sesiynau un-i-un efo merched, gan drafod nifer o agweddau ar fywyd.
Yn aml, meddai, mae merched eisiau mwy allan o’u bywydau, eisiau teimlo’n well am eu hunain, neu eisiau newid rhywbeth.
Ar y llaw arall, hyfforddwr personol yw Becca Williams, ac mae hi’n gwneud llawer o waith efo mamau, yn enwedig mamau newydd i’w helpu nhw a dangos iddyn nhw sut i helpu eu hunain a’u cyrff ar ôl geni babi.
Mae hi’n cynnal sesiynau un-i-un a gyda grwpiau.
Gan gyfuno sgiliau’r ddwy, y gobaith yw grymuso menywod yn eu taith drwy fywyd.
Ond “rydyn ni o’r un un meddylfryd”, meddai Catrin Atkins wrth golwg360.
“Gwnaeth y syniad o’r digwyddiad gychwyn o’n bod ni eisiau gweithio efo’n gilydd, ein bod ni’n meddwl ein bod ni’n licio beth oedd y llall yn gwneud, ac yn meddwl bysa fo’n gyfuniad da o’n set o sgiliau.
“Beth rydyn ni eisiau i ferched deimlo ydy eu bod nhw’n teimlo wedi grymuso, eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu gwneud penderfyniadau iddyn nhw eu hunain a’r gobaith ydy, drwy gynnal y diwrnod yma, ein bod ni’n gallu dechrau dangos i ferched sut i wneud hynny dros eu hunain.
“Nid oherwydd bod nhw’n gwneud rhywbeth yn anghywir, neu fod rhywbeth mawr yn bod ar eu bywydau nhw.
“Llawer o’r amser, mae yna lawer o ferched sydd eisiau mwy allan o’u bywydau.
“Mae pobol yn wahanol, chdi a fi yn wahanol.
“Rydyn ni rili eisiau iddyn nhw weld hynna, fod dim rhaid iddyn nhw feddwl, ‘Mae rhaid gwneud hyn yn yr amser yma, mynd i goleg, prifysgol…’
“Ychydig bach o ofn efallai i gymryd y camau cyntaf yna.
“Dydy o ddim hyd yn oed yn cymryd y camau cyntaf i ddechrau meddwl yn wahanol am beth maen nhw eisiau allan o’u bywydau.
‘Mae o i bwy bynnag mae o’n apelio.
“Rwy’ wir yn credu bod y cyfuniad ohonof i a Becca efo’n gilydd yn mynd i apelio i rai pobol sydd eisiau mwy allan o’u bywydau, sydd eisiau newid, sydd eisiau dechrau meddwl yn wahanol amdanyn nhw eu hunain.
“Mae o am gymryd y camau cyntaf i wneud hynna.”
Bod yn y corff
Bydd symudedd yn rhan o nifer o sesiynau a gweithgareddau y bydd Becca Williams yn eu gwneud.
Un o’r prif obeithion yw mynd i’r afael â gorfeddwl, a bod yn bresennol yn y corff.
“Rydym yn chwilio am ddeg ar y mwyaf o ferched,” meddai Catrin Atkins, gan ychwanegu bod tua’u hanner wedi’u llenwi eisoes.
“Dydy ddim jest yn un peth; edrych ar mindset, sut i edrych yn wahanol ar bethau, amdanach chdi dy hun, amdan dy sefyllfa, am beth wyt ti’n mynd i wneud nesaf.
“Mae Becca yn awyddus i wneud symudedd, felly cael dy hun allan o dy ben ac mewn i dy gorff fel bod chdi’n gallu canolbwyntio mwy ar hynny.
“Mae’r pethau yna rydym yn gwneud pan rydym yn gorfeddwl pethau.
“Dw i’n 44, dw i wedi treulio rhan fwyaf fy oes yn gwneud hynna.
“Dw i ddim yn mynd i allu newid o dros nos.
“Mae’r naratif yn ein pennau yn dweud pethau gwahanol wrthym ni.
“Yn dibynnu ar y tywydd, rydym am drio mynd allan i gael awyr iach a bod allan yn natur.
“Rwy’ i wedyn am gael cwpwl o sesiynau eithaf hwyliog, dim byd rhy drwm, ond ffyrdd gwahanol i feddwl am dy sefyllfa neu chdi dy hun.”